Pwy yw'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol?
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

UNED GYMRAEG - CANGEN PRIFYSGOL DE CYMRU
Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r gangen yn cwrdd yn aml yn ystod y flwyddyn i roi cyfle i fyfyrwyr a staff leisio eu barn ar faterion cyfrwng Cymraeg.
Mae croeso i ti gysylltu â Sara, Swyddog Cangen PDC drwy ebostio [email protected] i ddarganfod mwy am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg os nad yw dy radd yn cynnwys darpariaeth Cymraeg. Gelli di ddilyn gweithgareddau a newyddion o Gangen Prifysgol De Cymru ar Twitter, Facebook a Instagram.

Fel aelod o’r Coleg, byddi di'n derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau, cyfleoedd i ymgeisio fel llysgennad y Coleg, gwneud cais am y Dystysgrif Sgiliau Iaith ac yr holl ysgoloriaethau sydd ar gael.