Mae llawer o gyfleoedd i ti ddefnyddio dy Gymraeg yn y Brifysgol – yn gymdeithasol neu fel rhan o dy gwrs.

Manteisia ar y cyfleoedd hyn er mwyn ehangu dy orwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn cryfhau dy botensial gyrfaol. Mae ymchwil yn dangos bod cyflogwyr yn edrych fwyfwy ar recriwtio pobl sy’n medru cynnig gwasanaeth a sgil pellach o allu gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.

Darperir cyfleoedd cyffrous i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y meysydd canlynol:

BA (Anrh) Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau

Cwrs arloesol sy’n cynhyrchu ymarferwyr o’r radd flaenaf i weithio yn y diwydiannau creadigol (theatr a’r cyfryngau) yng Nghymru a thu hwnt. Addysgir 100% o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Theatr a Drama


BA (Anrh) Busnes a Rheoli

Mae cyflogadwyedd myfyrwyr wrth wraidd y cwrs hwn. Mae ei achrediad gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn disgwyl i raddedigion busnes feddu arnynt.


Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Hannah Porch Business.jpg


BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

Mae rheoli adnoddau dynol yn chwarae rhan hanfodol ar bob lefel ym mhob sefydliad. Dim ond os yw ei bobl yn cael eu rheoli, eu cymell, eu hymrwymo a'u hymgysylltu'n dda y bydd sefydliad yn llwyddo.
Byddwch chi'n datblygu'r union sgiliau, ymddygiadau a gwybodaeth graidd sy'n ofynnol ar gyfer y proffesiwn, gan eich gwneud chi’n ymgeisydd dymunol i gyflogwyr y dyfodol.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Gertrude Nankumba.jpg


BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth Rhyngwladol

Mae'r cwrs hwn yn integreiddio disgyblaethau busnes, rheoli, entrepreneuriaeth ac arweinyddiaeth ac mae wedi'i anelu at weithredu mewn amgylchedd byd-eang.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

busnes a rheolaeth rhyngwladol


BSc (Anrh) Rheoli Marchnata

Wrth astudio’r cwrs hwn byddwch yn derbyn y wybodaeth a’r datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni marchnata effeithlon, effeithiol a deniadol. Byddwch yn cael eich trochi mewn meysydd marchnata allweddol fel ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu marchnata ac ymchwil marchnad.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Rheoli Marchnata


BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi

Mae cadwyni cyflenwi yn darparu ein holl gynhyrchion a gwasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio - maen nhw hefyd yn cynnwys rheoli gweithrediadau, logisteg, caffael a rheoli prosiectau. Achredir y cwrs hwn gan y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi


BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio trosedd, troseddoldeb, erledigaeth a'r system cyfiawnder troseddol, mae'r BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar eich cyfer chi. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o theori ac ymarfer mewn troseddeg, ac yn deall cyd-destun cymdeithasol trosedd a sut mae'n cael ei reoli. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae asiantaethau'n gweithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol. 

Gellir astudio o leiaf 40 credyd o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Troseddeg 1


BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid

Mae'r radd Troseddeg hon yn rhoi cyflwyniad beirniadol i ddau fater cymdeithasol arwyddocaol a heriol - trosedd a chyfiawnder ieuenctid. 

Mae'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr yn gyfrifol am ddedfrydu a gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed sydd wedi cyflawni trosedd. Mae'r system hefyd yn ymyrryd â phobl ifanc y mae eu hymddygiad yn broblemus cyn iddynt fynd i mewn i system ffurfiol y llysoedd.

Prif nod y system cyfiawnder ieuenctid yw atal troseddau ieuenctid. Yn ogystal â deall ymddygiad troseddol mewn pobl o bob oed, byddwch yn archwilio'r prif faterion sy'n ymwneud â throsedd ieuenctid a'r system cyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â sut mae cymdeithas yn ymateb i bobl ifanc sy'n troseddu. Dewch o hyd i ni ar Twitter @USWCriminology

Gellir astudio o leiaf 40 credyd o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Troseddeg 2



BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Gyda Seicoleg

Mae troseddeg a seicoleg yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym a thrwy'r cwrs hwn byddwch yn astudio nid un, ond dwy ddisgyblaeth amserol, heriol a hynod ddiddorol. 

Gan gwmpasu dau faes astudio gwahanol ond ategol, mae'r radd fawr hon mewn Troseddeg gyda Seicoleg yn caniatáu i chi astudio elfennau sylfaenol pob disgyblaeth.

Gellir astudio o leiaf 40 credyd o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Troseddeg 4


BSc (Anrh) Arolygu Adeiladau

Mae'n ofynnol i Syrfewyr Adeiladu gynghori ar a rheoli pob agwedd ar yr Amgylchedd Adeiledig sy'n tyfu o hyd. Wrth i ni ddefnyddio ein hadeiladau yn fwy effeithlon a mynnu mwy o'n lleoedd trefol, mae rôl y syrfëwr adeiladau yn dod yn fwy pwysig. 

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Building Surveying (002)


BSc (Anrh) Rheoli Prosiect Adeiladu

Mae rheolwyr prosiect ynghlwm â phrosiect trwy gydol ei oes; o’r camau cynnar yn trafod dichonolrwydd a dylunio, i’r adeiladu a’r trosglwyddo. Mae amrywiaeth eang o swyddogaethau yn rhan o'r rôl, o reoli prosiectau adeiladau newydd, gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu, i reoli asedau strategol.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.


rheoli prosiect adeiladwaith


BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

Mae galw mawr am dirfesurwyr meintiau ac maen nhw’n ennill cyflogau deniadol. Wrth astudio’r cwrs hwn, byddi di’n dysgu sgiliau a galluoedd sy’n berthnasol yn uniongyrchol i arferion a safonau’r diwydiant.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Tirfesur

BSc (Anrh) Tir ac Eiddo

Ar y cwrs hwn byddwch yn archwilio hanfodion yr Amgylchedd Adeiledig gan ganolbwyntio ar bileri thematig fel Adeiladu, Cyllid, y Gyfraith, Technoleg a Rheoli, gyda ffocws ar sgiliau Eiddo Tirol megis Prisio a Rheoli Asedau.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Tir ac Eiddo

BSc (Anrh) Heddlua Proffesiynol

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer heriau heddlua modern a phroffesiynau cysylltiedig. Cewch eich dysgu gan gyn heddweision ac academyddion blaenllaw a chewch fwynhau cyfleusterau rhagorol y campws.

Gellir astudio dros draean o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ysgoloriaethau penodol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Bydd myfyrwyr sy’n nodi eu bod yn siarad Cymraeg wrth ymrestru gyda’r Brifysgol yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg gwerth 40 credyd (dau fodiwl), gyda’r opsiwn o newid i astudio’r modiwlau drwy gyfrwng y Saesneg.

Police Sciences

BA (Anrh) AGA Cynradd gyda SAC

Wyt ti eisiau dysgu mewn ysgol gynradd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i addysg pobl ifanc? Wyt ti'n angerddol am addysg gynradd ac yn awyddus i rannu dy frwdfrydedd gydag eraill?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn y brifysgol ac mewn ysgolion cynradd er mwyn darparu profiadau dysgu.

Gellir astudio 80% o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae ysgoloriaethau ar gael, gan gynnwys Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.

Rebecca Griffiths_BA (Anrh) Astudiaethau Cynradd gyda SAC