Gall unrhyw fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg astudio modiwl byr (5 credyd) ychwanegol i gynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth drwy eu harfogi i weithio mewn sefydliadau Cymraeg neu ddwyieithog. 

Bydd y modiwl, sy'n cyfateb i 6 awr dros un semester, hefyd yn darparu cymhwyster ychwanegol trwy dy baratoi di ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - a fydd yn dangos dy allu i gyfathrebu'n broffesiynol yn y Gymraeg.

Cewch restr o gwestiynau cyffredin isod, ond os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Siân Harris, neu Bronwen Rickard neu Megan Jones darlithwyr Cyflogadwyedd Cymraeg PDC.


Gall unrhyw fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio unrhyw gwrs ar draws ein holl campysau astudio'r modiwlau hyn. 

·         i wella’ch rhagolygon am swydd;

·         i adeiladu’ch hyder;

·         i wneud y fwyaf o’ch cryfderau wrth baratoi am y byd gwaith;

·         i ddatblygu’r sgiliau cyffredinol a ddisgwylir gan bob cyflogwr;

·         i gadw a datblygu’ch sgiliau Cymraeg;

·         i ennill cymwysterau ychwanegol;

·         i gwrdd â myfyrwyr ar gyrsiau eraill ar draws y Brifysgol;

·         i gyfarwyddo gyda’r technegau dysgu ar-lein ac all-lein a ddefnyddir ar eich prif gwrs.

Mae Ysgoloriaeth PDC gwerth £250 yn cael ei chynnig i fyfyrwyr sy'n dewis astudio'r modiwl hwn yn eu blwyddyn gyntaf, ail neu trydydd (lefelau 4-6). Cewch fwy o wybodaeth a ffurflen gais yma

6 sesiwn ar draws 1 semester.

I gofrestru, cysylltwch â Siân Harris, neu Bronwen Rickard, neu Megan Jones darlithwyr Cyflogadwyedd Cymraeg PDC, os oes cwestiwn gennych.

Bydd y sesiynau yn cael eu trefnu o gwmpas amserlen eich cwrs, naill ar-lein neu yn y dosbarth.

Blwyddyn 1:  bydd y modiwl yn adeiladu eich hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.  Rhoddir amrywiaeth o dasgau yn seiliedig ar waith i chi megis cynhyrchu blogiau ac ymchwilio sefydliadau, yn berthnasol i'ch cwrs gradd.  Bydd y pwyslais ar Gymraeg llafar, er byddwch yn cael eich cyflwyno i adnoddau electronig er mwyn gwella’ch Cymraeg ysgrifenedig.

Blwyddyn 2:  bydd y modiwl yn eich cyflwyno i sgiliau sy’n benodol i weithleoedd Cymraeg neu ddwyieithog.  Rhoddir amrywiaeth o dasgau yn seiliedig ar waith i chi  megis cyflwyno yn y Gymraeg a chyfieithu o’r Gymraeg i Saesneg, yn berthnasol i’ch cwrs gradd.  Byddwch yn cael cyfleoedd i wella’ch Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.

Blwyddyn 3:  bydd y modiwl yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o’r broses ymgeisio am swydd graddedig Cymraeg neu ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).  Bydd yn eich galluogi i gynhyrchu CV dwyieithog, creu proffil proffesiynol ar-lein, adolygu technegau cyfweld ac adnabod sefydliadau gyda ffocws Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae’r modiwlau yn arunig h.y. gallai myfyrwyr wneud modiwl y drydedd flwyddyn heb wedi gwneud modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn.

Cymhwyster sy’n cael ei gynnig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn profi gallu i gyfathrebu’n broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n cael ei adnabod yn eang gan gyflogwyr Cymraeg a dwyieithog yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector.  Byddwch chi hefyd yn gallu ymgeisio ar gyfer y cymhwyster hwn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol.