Mae yna lawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio'ch Cymraeg yn y Brifysgol - yn gymdeithasol neu fel rhan o'ch cwrs. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyn i ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn gwella potensial eich gyrfa.

Darperir cyfleoedd academaidd mewn amrywiaeth o bynciau o Berfformio i Blismona.

Mae'r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio rhan o'u cwrs trwy gyfrwng Cymraeg. Mae'r Brifysgol hefyd yn rhan o gynllun ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

YSGOLORIAETH PDC £250 (Medi 2023)

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig 16 ysgoloriaeth gwerth £250 i fyfyrwyr addysg uwch Lefel 4-6 sy’n dymuno astudio o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais. Yna, cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 31 Hydref 2023. Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].


YSGOLORIAETH PDC £1,000 (Medi 2023)

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym meysydd perfformio, tirfesureg, busnes, dysgu cynradd, heddlua a troseddeg o Fedi 2023

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 31 Hydref 2023. Cofiwch ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais.

Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].

Counselling Students at USW Newport _41415.jpg

--

Student Finance Information - Image

--


Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Prif Ysgoloriaeth

£1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) yw gwerth Prif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg, sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn o’r cwrs gradd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:

Ysgoloriaeth Cymhelliant

£500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) yw gwerth Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg.

Yn y flwyddyn academaidd 2022-23, mae'r ysgoloriaeth ar gael i bob myfyrwyr sy’n bwriadu astudio 40 credyd y flwyddyn o’r cyrsiau gradd isod trwy gyfrwng y Gymraeg:

Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg ar agor nawr ar gyfer Medi 2023, ac yn cau ar 31 Hydref 2023.