Llety

Os ydych chi'n siarad Cymraeg neu'n dysgu'r iaith, ac eisiau byw gyda siaradwyr Cymraeg eraill yn y neuaddau preswyl, mae PDC yn cynnig yr opsiwn i chi wneud hynny. Gallwch chi nodi'r dewis hwn ar eich ffurflen gais am lety. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ewch i'n tudalennau llety

Cymdeithas Gymraeg Prifysgol De Cymru

Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn. O nosweithiau gwisg ffansi i ddigwyddiadau codi arian – byddi di siwr o fod yn ffeindio rhywbeth i ti fwynhau! Mae hefyd yn gyfle gwych i wneud llwyth o ffrindiau newydd.

Gelli di gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r GymGym trwy ymuno â'u tudalen Facebook neu ddilynwch y Gymdeithas ar Twitter