Mae Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru ar gyfer cyfleoedd dysgu ac addysgu - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Mae'r cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid) (Top Up), sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi sicrhau a HND neu gymhwyster cyfatebol, yn caniatáu ichi ennill gradd baglor lawn mewn llai na blwyddyn.
O strategaeth fusnes a busnes fyd-eang i systemau cyfrifeg ac archwilio, mae'n ffordd wych o gynyddu eich cyflogadwyedd gyda gwybodaeth gyfrifeg arbenigol wedi'i danategu gan sgiliau busnes hanfodol.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
NNC4 | Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | ||
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
NNC4 | Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.