Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06

Roedd 94% o'n myfyrwyr BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn yn fodlon ar eu cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023
Ydych chi eisiau dysgu sut i greu cylchgrawn ffasiwn, cynllunio ymgyrch ddigidol, steilio a chyfarwyddo a saethu lluniau, neu lansio brand?
Mae BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn dysgu sylfeini marchnata ffasiwn creadigol i chi, ac yn arbenigo mewn addysgu sgiliau ymarferol, dealltwriaeth a theori i alluogi myfyrwyr i greu gwaith arloesol a chreadigol trwy eiriau, delweddau a phrofiadau.
Mae'r cwrs yn galluogi myfyrwyr sy'n gallu ysgogi'u hunain i ddatblygu dulliau masnachol a chysyniadol i archwilio amrywiaeth o dechnegau mewn graffeg, brandio, rhagolygon tueddiadau, ymddygiad cwsmer, steilio, fideo, ffotograffiaeth, cysylltiadau cyhoeddus, astudiaethau diwylliannol, a strategaeth farchnata greadigol.
Mae modiwlau a briffiau byw yn cael eu datblgu law yn llaw gyda phobl broffesiynol, arbenigol i sicrhau bod y cynnwys a'r addysgu yn taro deuddeg ac yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant heddiw.
Mae myfyrwyr a graddedigion Hyrwyddo Ffasiwn blaenorol wedi lansio eu gyrfaoedd yn House of Sunny, Harper’s Bazaar, Tank Magazine, BBC Wardrobe Department, Bricks Magazine, Topshop, John Lewis and Orwell + Austin, tra bod eraill wedi llunio gyrfaoedd mentrus fel gweithwyr llawrydd a chychwyn busnesau newydd a gyda brandiau anibynnol.
Ymhlith y deg uchaf yn y DU ar gyfer asesu Ffasiwn a Thecstilau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
Ar y brig yng Nghymru ar gyfer addysgu ac asesu Ffasiwn a Thecstilau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
WN25 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
WNF5 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
WN25 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
WNF5 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.