Mae'r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar hanfodion busnes gwesty, rheoli bwyd a diod cynaliadwy, a gwasanaethau cwsmeriaid a systemau ansawdd. Byddwch hefyd yn dechrau cael profiad gwaith ymarferol yn y Celtic Manor, yn syth o'r tymor cyntaf.
Bydd yr ail flwyddyn yn eich paratoi ar gyfer rheoli gweithrediadau cyffredinol busnes lletygarwch yn effeithiol. Yn ogystal â threulio cryn dipyn o amser yn cael profiad ymarferol pellach ar lefel oruchwyliol, bydd eich astudiaethau yn cynnwys rheoli is-adran ystafelloedd, rheoli refeniw a marchnata digidol ar gyfer gwestai.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn dysgu am weithrediadau gwesty cynaliadwy, rheolaeth busnes rhyngwladol a damcaniaethau allweddol arweinyddiaeth a rheolaeth. Byddwch hefyd yn parhau i gael profiad gwaith ymarferol yn y Celtic Manor, gyda ffocws ar weithrediadau lefel rheolaethol.
Sylwer bod modiwlau dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys rhai sifftiau gyda'r nos ac ar benwythnosau, er mwyn profi'r ystod lawn o gyd-destunau lletygarwch.
Blwyddyn Un: Gradd Rheoli Gwestai a Lletygarwch
Ym Mlwyddyn Un byddwch yn astudio'r modiwlau penodedig canlynol, ochr yn ochr ag ymgymryd ag oriau profiad gwaith yn y Celtic Manor (a fydd yn canolbwyntio ar agweddau gweithredol):
- Dysgu seiliedig ar waith lletygarwch
- Myfyrdodau beirniadol ar ddysgu seiliedig ar waith
- Dysgu seiliedig ar brosiectau
- Lletygarwch yn ei gyd-destun
- Rheoli bwyd a diod yn gynaliadwy
- Gwasanaeth cwsmeriaid a systemau ansawdd
Blwyddyn Dau: Gradd Rheoli Gwestai a Lletygarwch
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn parhau i ymgymryd ag oriau profiad gwaith yn y Celtic Manor, a fydd yn canolbwyntio ar agweddau goruchwylio. Bydd y modiwlau a astudir yn cynnwys:
Dysgu seiliedig ar waith sector – ymarfer a myfyrio
- Ymarfer proffesiynol
- Marchnata digidol ar gyfer gwestai
- Rheoli is-adrannau ystafelloedd
- Strategaethau ar gyfer rheoli refeniw
Blwyddyn Tri: Gradd Rheoli Gwestai a Lletygarwch
Bydd oriau profiad gwaith Blwyddyn Tri yn y Celtic Manor yn canolbwyntio ar agweddau rheoli. Bydd y modiwlau a astudir yn cynnwys:
- Ymarfer proffesiynol gydag arbenigedd
- Myfyrdodau beirniadol ar ddysgu yn y gweithle
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Rheolaeth Busnes Rhyngwladol
- Gweithrediadau gwestai cynaliadwy
Fel y nodwyd uchod, mae'r cwrs gradd rheoli gwestai a lletygarwch yn cynnwys nifer sylweddol o fodiwlau dysgu seiliedig ar waith, sy'n golygu y gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn ogystal ag aros oddi cartref o bosibl. Gall hyn effeithio ar fyfyrwyr ag anableddau a/neu ymrwymiadau teuluol. Cysylltwch ag arweinydd y cwrs Tina Thomas i drafod ymhellach.
O ystyried bod dysgu seiliedig ar waith yn rhan annatod o'r cwrs, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos cymwyseddau mewn ystod o feysydd proffesiynol a gweithredol sy'n ofynnol mewn cyrchfan pum seren. Ffurfiolir yr angen i basio'r cymwyseddau craidd hyn, yn ogystal â gofynion academaidd y cwrs, fel elfen graidd o asesu ar gyfer pob lefel astudio.
Cewch hyfforddiant mewnol gan y Celtic Manor Resort, gan atgyfnerthu'r safonau a'r disgwyliadau proffesiynol o weithredu o fewn cyrchfan pum seren. Bydd hyn, ochr yn ochr â phroses o fonitro, gwerthuso ac adborth parhaus ar gynnydd, yn rhoi cymorth i chi i fodloni'r safonau hyn. Ar y safonau proffesiynol a gweithredol hyn y caiff myfyrwyr eu hasesu am eu haddasrwydd i barhau â'u dysgu seiliedig ar waith yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor.
Dysgu
Caiff eich astudiaethau eu tanategu gan yr ymchwil ddiweddaraf a gynhaliwyd gan Grŵp Ymchwil Ysgol Fusnes De Cymru . Golyga hyn y byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion sydd ar flaen y gad yn eu maes arbenigol.
Asesiad
Mae dulliau asesu yn atgynhyrchu gweithgareddau sydd eu hangen yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cael eich asesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, gwaith grŵp, cyflwyniadau a cheisiadau ar-lein.