Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Gwesty’r Celtic Manor Resort (CMR) a Chanolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru (ICCW), nod y cwrs yw cyfuno sylfaen theori Rheoli Digwyddiadau gyda'r cyfle i ddatblygu profiad ymarferol yn y diwydiant mewn lleoliad marchnad ryngwladol. Gyda phwyslais cryf ar egwyddorion rheoli prosiect yn gynaliadwy drwyddi draw, mae'r cwrs yn darparu addysg fusnes uwch i fyfyrwyr wrth gyd-destunoli'r dysgu hwn ym maes rheoli digwyddiadau.
Mae'r diwydiant digwyddiadau yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, gan chwarae rhan sylfaenol mewn datblygu economaidd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bellach mae'n werth £ 42.3 biliwn yn y DU yn unig ac mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol a chyffrous ledled y byd. Bydd y cwrs Rheoli Digwyddiadau Rhyngwladol arloesol hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â'r CMR ac ICCW, gan gynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr brofi'r diwydiant digwyddiadau o ystod o safbwyntiau trwy gydol eu hastudiaethau. Mae hon yn rhaglen 'gyntaf o'i bath' yn y DU ac mae ganddi apêl leol, genedlaethol a rhyngwladol gynhenid.
Mae'r cwrs yn dwyn ynghyd ein harbenigedd sefydledig mewn astudiaethau digwyddiadau, a busnes a rheolaeth, i ddarparu dealltwriaeth feirniadol o'r gwahanol gysyniadau a materion, technegau ymchwil ac enghreifftiau o arfer unigryw ar draws y maes amrywiol hwn.
Mae ein sefydliadau partner mawreddog yn darparu cyfleoedd i chi ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, gan gynyddu eich hyder, sgiliau a chyflogadwyedd pan fyddwch chi'n graddio.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
N823 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
Amerthnasol | Rhan amer | 6 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
N824 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
N823 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
Amerthnasol | Rhan amer | 6 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
N824 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.