Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06

Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru sydd ar y brig yng Nghymru am gyfleoedd dysgu, asesu, cymorth academaidd, llais myfyrwyr a boddhad cyffredinol - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023
Mae'r radd hon mewn cyfryngau, diwylliant a newyddiaduraeth yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y cyfryngau, cymdeithas a diwylliant, a'i rôl wrth ddeall pwy ydym ni. Gan gymysgu theori â'r cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol cryf â ffocws, byddwn yn rhoi darlun clir i chi o sut mae'r cyfryngau yn gweithio.
Diolch i'r gymysgedd hon, mae gan ein graddedigion wybodaeth fanwl am y pwnc a sgiliau dadansoddi cryf sy'n cael eu gwerthfawrogi yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Mae'r rhai sy'n dysgu ar ein modiwlau sy'n seiliedig ar theori yn ymchwilwyr safon fyd-eang, tra bod gan y rhai sy'n cyflwyno ein modiwlau ymarferol brofiad proffesiynol helaeth yn y cyfryngau. Mae Caerdydd yn ganolfan i un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU. Gyda chymaint yn digwydd, mae'n lle perffaith i astudio'r cyfryngau a newyddiaduraeth.
Mae graddedigion y gradd Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn mynd ymlaen i weithio i rai o brif ddarlledwyr ffilm a theledu, dosbarthwyr a sefydliadau addysgol, a chyhoeddir eu gwaith ymchwil yn fyd-eang.
Yn ogystal, mae gan y radd gysylltiadau cryf â diwydiant sy'n darparu amrywiol ddosbarthiadau meistr, sgyrsiau gwadd, a chyfleoedd profiad gwaith.
2022 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
PP35 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
PP35 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.