Roedd 94% o’n myfyrwyr BA (Anrh) Cynhyrchu'r Cyfryngau'n fodlon â’u cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022

Os ydych chi eisiau gyrfa yn y diwydiannau cyfryngol, mae'r radd ymarferol hon mewn Cynhyrchu Cyfryngol yn cynnig y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar dair agwedd bwysicaf cynhyrchu cyfryngol - teledu, radio a chyfryngau newydd. Byddwch yn dechrau astudio pob maes cynhyrchu, gan fasgu sgiliau ymarferol i gynhyrchu cynnwys ar draws gwahanol lwyfannau a chyfryngau. Yna gallwch arbenigo ym maes teledu, radio neu gyfryngau newydd, gydag ymwybyddiaeth o sut maen nhw'n croestorri yn y byd modern. 

Mae myfyrwyr sy'n astudio'r radd Cynhyrchu Cyfryngol ar ein campws yng Nghaerdydd yn elwa ar dîm addysgu arbenigol, llawer ohonynt â phrofiad proffesiynol yn y diwydiant cyfryngau a chysylltiadau rhagorol yn y diwydiant. Gyda Chaerdydd yn ganolfan i un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU, mae'n lle perffaith i lansio'ch gyrfa. 

Mae ein graddedigion Cynhyrchu Cyfryngol wedi mynd ymlaen i swyddi yn y BBC, ITV, S4C, Made in Wales TV, Boomerang, Indus, Media Wales, Sky Sports a Sky News, ynghyd â llawer o sefydliadau cyfryngol a chwmnïau cysylltiadau cyhoeddus eraill. Mae gradd Cynhyrchu Cyfryngau PDC hefyd yn rhan o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, sy'n cynnig y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar fyfyrwyr i weithio yn y diwydiant teledu a ffilm cyffrous heddiw.  

Y gorau yng Nghymru am ragolygon gyrfa mewn Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth. (Cynghrair y Guardian 2022)
 
Gweler waith myfyrwyr ar y blog Cynhyrchu Cyfryngol 

Dilynwch gyrsiau Newyddiaduraeth a Chyfryngau PDC ar Instagram 

2023 Cod UCAS Modd Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
P301 Amser llawn 3 blynedd Medi Caerdydd (ATRiuM) B
2024 Cod UCAS Modd Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
P301 Amser llawn 3 blynedd Medi Caerdydd (ATRiuM) B

Mae blwyddyn gyntaf y cwrs gradd Cynhyrchu Cyfryngol yn cynnwys modiwlau cynhyrchu ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cysyniadau a chyflwyniad i ysgrifennu sgriptiau, fideo, sain / dyluinio sain a dylunio ac adeiladu rhyngweithiol, wedi'i gydbwyso â modiwl theori i helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r diwydiant. Ffocws y flwyddyn gyntaf yw archwilio a datblygu eich creadigrwydd a nodi'r maes o ddiddordeb a ddewiswyd gennych yn y diwydiant. 

Yn ystod yr ail flwyddyn byddwch yn dechrau arbenigo ymhellach o fewn timau cynhyrchu trwy ddatblygu eich sgiliau o fewn y rolau cynhyrchu o'ch dewis ar raglenni effeithiol a ffuglen byr, hysbysebion, hyrwyddiadau ac ym maes dweud straeon rhyngweithiol. Byddwch hefyd yn datblygu eich arferion proffesiynol trwy weithio ar friffiau 'byw' cleientiaid allanol. 

Rhwng ail a thrydedd flwyddyn y cwrs gradd Cynhyrchu Cyfryngol, mae cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad gwaith am flwyddyn, a chael profiad gwaith gwerthfawr i wella rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol. 

Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi sefydlu timau cynhyrchu i gwblhau eich Prosiectau Mawr; bydd eich rôl mewn Prosiect Mawr yn canolbwyntio ar eich maes diddordeb penodol. Bydd y Prosiect Mawr yn cael ei gefnogi gan eich prosiect ymchwil personol, a fydd yn cynnig sylfaen ar gyfer eich dull gweithredu a'ch cyfranogiad. 

Blwyddyn Un - gradd Cynhyrchu Cyfryngol 

  • Technegau Cynhyrchu Gweledol - Stiwdio a Lleoliad 

  • Dylunio Sain a Chynhyrchu Sain - 1 

  • Rhyngweithiol - Dylunio ac Adeiladu 

  • Diwylliant Beirniadol - Un 

  • Dadansoddi a Datblygu Creadigol 

Blwyddyn Dau - gradd Cynhyrchu Cyfryngol 

  • Technegau Cynhyrchu Gweledol - Ffuglen Fer 

  • Dylunio Sain a Chynhyrchu Sain - 2 

  • Rhyngweithiol - Dweud Straeon 

  • Briff Cleient - Ymarfer Proffesiynol 

  • Diwylliant Beirniadol - Dau 

  • Datblygu Cysyniad a Sgript 

Blwyddyn Tri - gradd Cynhyrchu Cyfryngol

  • Prosiect Ymchwil Cyd-destun Diwylliannol 

  • Prosiect Mawr Cyfryngol - Pecyn Datblygu 

  • Prosiect Mawr Cyfryngol - Cynhyrchu 

  • Ymarfer Llawrydd Proffesiynol 


Dysgu 

Caiff y cwrs gradd cynhyrchu cyfryngol ei addysgu trwy ystod o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol sy'n adlewyrchu'r gymysgedd o'r gwaith ymarferol a'r meddwl sy'n llywio'r cwrs. 

Byddwch yn cael darlithoedd wedi'u hamserlennu am dri diwrnod. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i chi ymgymryd ag astudiaeth, annibynnol o dan eich cyfarwyddyd eich hun amrhan fwyaf o weddill eich wythnos, y tu allan i sesiynau ar yr amserlen. 

Byddwch hefyd yn datblygu portffolio proffesiynol, tâp arddangos a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng gweithdai wedi'u targedu, ynghyd â dysgu sgiliau hanfodol i'ch paratoi ar gyfer gweithio ar eich liwt eich hun yn y diwydiant cyfryngau. 

Heb anghofio y byddech yn astudio yng Nghaerdydd, un o brif ganolfannau diwydiant Teledu a Chyfryngau'r DU, lle cafodd dramâu fel Sherlock, Dr Who, Casualty, Stella, Gavin & Stacey, Born to Kill, Safe House, Journeys End, Decline and Fall eu cynhyrchu. 

Ac nid stiwdios mawr Bad Wolf, Pinewood, BBC ac ITV yn unig sydd yng Nghaerdydd, erbyn hyn mae yma ddiwydiant cynhyrchu teledu annibynnol o dros 600 o gwmnïau. 


Asesiad 

Asesir eich gwaith ymarferol trwy waith cwrs ac aseiniadau, gan gynnwys cymysgedd o waith grŵp a phrosiectau unigol. 

Lleoliadau 

Mae gweithio i friffiau 'byw' gyda chleientiaid allanol, dan oruchwyliaeth eich tiwtoriaid, wedi'i ymgorffori yn nifer o'ch modiwlau drwy gydol tair blynedd eich cwrs, er mwyn eich paratoi'n llawn ar gyfer gweithio'n annibynnol, yn broffesiynol ac yn reddfol, gyda chleientiaid. 

Mae hefyd nifer o gyfleoedd profiad gwaith sy'n cael eu cynnig i'n hadran gan gyflogwyr yn Niwydiant y Cyfryngau, a chleientiaid allanol, trwy gydol pob blwyddyn, ac rydym yn eu trosglwyddo i'n myfyrwyr. 

Mae'r rhain wedi cynnwys gweithio ar Dr Who, Sex Education, Britain's Got Talent, The X Factor, The Big Question, X Ray, Crime watch, TedX; mewn stiwdios fel Bad Wolf a Pinewood, ar gyfer cwmnïau cynhyrchu mawr fel y BBC, Netflix a Channel Four a chynyrchiadau annibynnol ar gyfer Rhod Gilbert, VOX, Amplified Business Content, Jolene Films, a mwy. 


Cyfleusterau 

Stiwdio Deledu Fyw Aml-Gamera

Stiwdio Deledu o safon ddarlledu gyda 4 Camera Pedestal, Awtociw, Ystafell Reoli mewn Oriel, Gantri Goleuadau cyflawn, Sgrin Werdd, meiciau cyswllt, Doliau Tracio, Breichiau Craen ac offer cysylltiedig. 

Defnyddir y Stiwdio Deledu nid yn unig mewn sesiynau yn yr amserlen ond mae hefyd yn gyfleuster y gall ei archebu i fyfyrwyr gynhyrchu eu cynnwys teledu eu hunain y gallant ei ffrydio ar eu gwefannau eu hunain yn rheolaidd. 

Cynhyrchu Cyfryngol (Cwrs-Benodol) Ystafelloedd Golygu Mac

90 x peiriant Golygu Apple Mac mewn 3 x ystafell Gynhyrchu Cyfryngol bwrpasol. 

Mae pob peiriant yn rhedeg: Adobe Creative Suite (gan gynnwys Premiere, After Effects, Photoshop, Muse, Audition, InDesign); Golygu AVID a EP Movie Magic (Meddalwedd Amserlennu a Chyllidebu safonol y diwydiant). 

Ystafelloedd Radio Byw a Recordio Sain

3 x Stiwdio radio Ffrydio Byw. Cyfleusterau recordio Foley a Throsleisio. 

Y cyfan sydd ei angen arnoch i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i recordio a chymysgu sain ar gyfer darlledu Radio Byw a deunydd wedi’i recordio sain Lleoliad a Stiwdio ar gyfer cynyrchiadau Ffeithiol a Drama gan gynnwys Llyfrau Llafar, Animeiddio; Sain Stiwdio Deledu a sain foley ar gyfer Dramâu Sgrin, Rhaglenni Dogfen, Profiad Gêm a deunydd Rhyngweithiol. 

Camerâu Lleoliad Safonol Proffesiynol, Goleuadau, Gripiau ac Offer Recordio Sain 

Yn amodol ar eich lefel astudio a chwblhau gweithdai hyfforddi arbenigol, bydd modd i chi ddefnyddio: 

  • Camerâu Blackmagic Cine4K EF 

  • Camerâu Sony FS5 

  • Camera Fideo Sony NX100 

  • Camerâu GoPro 

  • Camerâu DSLR a 360 ° 

  • Offer Recordio Sain: AKG, Beyerdynamic, BlackMagic, Sennheiser, Edirol, Marantz a Rode 

  • Offer goleuo Arri, KinoFlo ac LED amrywiol 


Darlithwyr 


Rydym yn ailddilysu cyrsiau ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yn rheolaidd

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Mae’r meini prawf mynediad isod yn adlewyrchu ein gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs ar gyfer mis Medi 2023. Fodd bynnag, caiff pob cais a dderbynnir gan y Brifysgol ei adolygu’n gyfannol ac yn unigol. Mae meini prawf mynediad ar gyfer Medi 2024 yn newid a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ucas.com o 8 Mai 2023. Bydd meini prawf mynediad ar gyfer Medi 2024 yn cael eu diweddaru ar ein gwefan o ddiwedd mis Hydref 2023.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi’n byw a’r ysgol neu goleg y buoch yn ei mynychu er enghraifft), eich profiadau a’ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy’n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i’n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae Prifysgol De Cymru yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae’r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â’r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy’n ei gwneud yn fwy anodd i gael mynediad i brifysgol.  Dyma ddolen i'n Polisi Derbyniadau Cyd-destunol.

Cymwysterau a phrofiad eraill

Gallwn hefyd ystyried cyfuniadau o gymwysterau, ac efallai y bydd cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma hefyd yn dderbyniol. Weithiau gallwn ystyried credydau a enillwyd mewn prifysgolion eraill a'ch profiad gwaith/bywyd trwy asesiad o ddysgu blaenorol. Gall hyn fod ar gyfer mynediad blwyddyn un, neu fynediad uwch i flwyddyn dau neu dri o gwrs lle bo hyn yn bosibl.

I ddarganfod pa gymwysterau sydd â phwyntiau tariff, cyfeiriwch at gyfrifiannell tariff UCAS.

Os oes angen mwy o help neu wybodaeth arnoch neu os hoffech siarad â'n tîm mynediadau cyfeillgar, cysylltwch â ni yma.


Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma hefyd fod yn dderbyniol. 

Ymgeiswyr yn y DU

Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad efallai y bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.

Ymgeiswyr sydd tu allan i'r DU

Dewisir ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn ar sail cais addas a phortffolio o'ch gwaith. Bydd Arweinydd y Cwrs yn cadarnhau bod y portffolio yn addas cyn i’r cynnig cael ei wneud. 

Cynnig Lefel A nodweddiadol 

BCC - CDD (mae hyn yn cyfateb i 104-80 pwynt tariff UCAS). 

Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol 

Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C / D yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CD ar Lefel A (mae hyn yn cyfateb i 104-80 pwynt tariff UCAS). 

Cynnig nodweddiadol BTEC 

Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC - Teilyngdod Teilyngdod Teilyngdod (mae hyn yn cyfateb i 112-80 pwynt tariff UCAS). 

Cynnig Mynediad Nodweddiadol i AU 

Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 80 pwynt tariff UCAS 

Gofynion Ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol 

Gofynion Mynediad Rhyngwladol 

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau rhyngwladol sydd â chymwysterau cyfatebol. Ewch i'r tudalennau gwlad-benodol ar ein gwefan ryngwladol am yr union fanylion. 

Gofynion Saesneg 

Yn gyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol fod wedi cyflawni grand cyffredinol IELTS o 6.0 gydag isafswm sgôr o 5.5 ym mhob cydran. 

Fodd bynnag, os ydych chi wedi astudio o'r blaen trwy gyfrwng y Saesneg efallai na fydd angen IELTS, ond ewch i'r dudalen gwlad benodol ar ein gwefan ryngwladol am yr union fanylion. Os nad yw'ch gwlad wedi'i nodi, cysylltwch â ni. 

Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, bydd y ffi yn aros ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaeth ar y cwrs hwn. 

Darganfyddwch sut i dalu eich ffioedd dysgu yn llawn neu drwy gynllun talu. 

Mae'r cwrs hwn yn gymwys o dan y Cynllun Credydau Dysgu Gwell ar gyfer personél y Lluoedd Arfog. 

Mae Ysgoloriaethau Rhyngwladol ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol hunan-ariannu. 

Ffioedd Awst 2021 - Gorffennaf 2022  

  • Llawn amser y DU: I'w cadarnhau 

  • Rhyngwladol Llawn Amser: I'w cadarnhau 

Ffioedd Awst 2022 - Gorffennaf 2023 

  • Llawn amser y DU: I'w cadarnhau 

  • Rhyngwladol Llawn Amser: I'w cadarnhau 


Manteision Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n buddsoddi mewn cymaint mwy na dim ond gradd. Rydym yn ymdrechu i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr, ni waeth beth y dewiswch ei astudio. Boed yn fynediad i lyfrau Mac a Chyfrifiaduron Personol o’r radd flaenaf, cyfleusterau o’r radd flaenaf yn llawn offer a meddalwedd sy’n arwain y diwydiant, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, neu amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau i gwrdd â phobl o’r un anian, mae gwell yfory yn dechrau gyda manteision ychwanegol.

Mae gan bob cwrs hefyd eu buddion myfyrwyr unigryw eu hunain i'ch paratoi ar gyfer y byd go iawn, a gellir dod o hyd i fanylion y rhain ar ein tudalennau cwrs. O deithiau maes byd-eang, profiad gwaith integredig ac adnoddau rhad ac am ddim yn ymwneud â chyrsiau, i fentrau a ariennir, prosiectau sy'n gweithio gyda chyflogwyr go iawn, a chyfleoedd ar gyfer cymwysterau ac achrediadau ychwanegol - yn PDC mae eich dyfodol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am fanteision myfyrwyr yn PDC.


Costau Ychwanegol 

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig 

Eitem 

Cost 

Pecyn (Gwisg ac Offer)  

£ 60  

Gyriant caled cludadwy 2TB 

Teithiau Maes  

£ 150  

Taith Faes 

Teithiau Maes  

£ 700  

Taith faes ryngwladol 

Asesiad neu aelodaeth ychwanegol: 

Cyflwyniad Arddangosfa  

£ 200  

Blwyddyn 3 

Pecyn (Gwisg ac Offer) *  

£ 30  

Dau gerdyn SD (32GB isafswm yr un) 


Cyllid

Cyllid i helpu i dalu am (neu orchuddio) ffioedd dysgu cwrs a chostau byw

Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

I ddysgu am ffioedd cyrsiau, opsiynau ariannu, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i'n tudalennau Ffioedd a Chyllid.

Myfyrwyr y DU

Ymgeisiwch trwy UCAS os ydych chi'n ymgeisydd preswyl yn y DU, yn gwneud cais am flwyddyn 1 o radd israddedig amser llawn, Blwyddyn Sylfaen, Gradd Sylfaen neu HND ac nad ydych wedi gwneud cais trwy UCAS o'r blaen. Os ydych chi'n gwneud cais i astudio yn rhan-amser, i ychwanegu at eich Gradd Sylfaen neu HND, neu i drosglwyddo i PDC o sefydliad arall, os gwelwch yn dda gwnewch cais yn uniongyrchol.

Myfyrwyr rhyngwladol a'r UE

Gwnewch gais yn uniongyrchol i'r Brifysgol os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU.

Ymgeisiwch nawr

Mae graddedigion o'n cwrs gradd Cynhyrchu Cyfryngol wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes ffilmiau, cynhyrchu a chyflwyno, teledu a radio, y wasg a'r chysylltiadau cyhoeddus, dylunio gwe a newyddiaduraeth. 

Yn dibynnu ar y maes o'u dewis, bydd ein myfyrwyr yn graddio gyda'r gallu i weithredu ymarfer gwaith proffesiynol, mewn o leiaf un o'r canlynol, ar lefel mynediad sy'n ofynnol gan y ddiwydiant, fel - 

  • Peiriannydd recordio yn gweithio'n annibynnol ac o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm (lleoliad a stiwdio) ar draws llwyfannau a genres 

  • Gweithredwr Camera-Goleuo yn gweithio'n annibynnol ac o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm (lleoliad a stiwdio) ar draws llwyfannau a genres 

  • Dylunydd Rhyngweithiol yn gweithio'n annibynnol ac o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm (lleoliad a stiwdio) ar draws llwyfannau a genres 

  • Golygydd yn gweithio'n annibynnol ac o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm ar draws llwyfannau a genres 

  • Dylunydd / Golygydd Sain yn gweithio'n annibynnol ac o fewn senarios cynhyrchu tîm ar draws cyfryngau, llwyfannau a genres 

  • Sgriptiwr yn gweithio'n annibynnol ac o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm ar draws cyfryngau, llwyfannau a genres 

  • Cyfarwyddwr yn gweithio o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm ar draws y cyfryngau, llwyfannau a genres 

  • Rheolwr Cynhyrchu yn gweithio o fewn sefyllfaoedd cynhyrchu tîm ar draws cyfryngau, llwyfannau a genres 

Ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd 

Fel myfyriwr o USW, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd trwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un i un gan Gynghorwyr Gyrfa cyfadran, yn bersonol, dros y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost trwy'r gwasanaeth "Gofynnwch Gwestiwn". Mae gennym hefyd adnoddau ar-lein helaeth i gael help i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno'ch hun yn dda i gyflogwyr. Mae'r adnoddau'n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, adeiladwr CV, efelychydd cyfweliad a chymorth wneud ceisiadau. Mae gan ein cronfa ddata cyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr PDC, gallwch dderbyn rhybuddion e-bost wythnosol am swyddi. 

Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau ymroddedig: Tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen cyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter yn canolbwyntio ar syniadau busnes ac entrepreneuriaeth newydd.