
Lleolir y radd hon yng nghampws pwrpasol PDC, yng nghanol dinas greadigol Caerdydd.
Os oes gennych angerdd am gerddoriaeth a gwneud i bethau ddigwydd, mae'r radd Busnes Cerddoriaeth hon yn gyfle i archwilio'r nifer o lwybrau sydd ar gael yn y busnes cerdd, bod yn entrepreneuraidd a datblygu eich sgiliau busnes arbenigol. Daw myfyrwyr o ystod o gefndiroedd, gan rannu'r nod cyffredin o fod eisiau datblygu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae'r opsiynau gyrfa hyn yn cynnwys rheoli label, A&R, rheoli digwyddiadau, cyhoeddi, datblygu artistiaid, menter, marchnata a radio. Mae gan y radd Busnes Cerddoriaeth bwyslais clir ar sgiliau entrepreneuraidd a datblygu gyrfa strategol, gan arwain at brosiect blwyddyn olaf a allai fod yn ddechrau ar eich gyrfa ddisglair yn y busnes cerdd.
Bydd prosiectau cerddoriaeth y byd go iawn ym myd cerddoriaeth bywiog Caerdydd a De Cymru yn rhan o'ch profiad fel myfyriwr ar y cwrs Busnes Cerdd. Fe'ch anogir i weithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill, gan elwa ar y gymuned greadigol y byddwch mewn cysylltiad â hi yn y Brifysgol. Mae gan staff y gyfoeth o brofiad yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Byddwch hefyd yn elwa ar ymweliadau rheolaidd a dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol o safon uchel yn y diwydiant cerddoriaeth fel cyn reolwr Coldplay, Estelle Wilkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth ddigidol flaenllaw Edition, Adam Biddle, ac Alun Llwyd a Kevin Tame o label annibynnol enwog Cymru, Turnstile.
2022 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
W370 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd | B | |
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
W370 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd | B |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.