Ar y brig yng Nghymru o ran rhagolygon graddedigion mewn Addysg - Complete University Guide 2023
Ydych chi eisiau dysgu mewn ysgol gynradd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i addysg pobl ifanc? Ydych chi’n angerddol am addysg gynradd ac yn awyddus i rannu’ch brwdfrydedd gydag eraill?
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn y brifysgol ac mewn ysgolion cynradd er mwyn darparu profiadau dysgu ac addysgu dilys a fydd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant i ysbrydoli dysgwyr i gyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion sydd wedi'u dewis am eu darpariaeth ragorol a'u record barhaus o fentora a'u hymglymiad ag addysg gychwynnol i athrawon. Mae llawer o'n hysgolion partneriaeth arweiniol yn chwarae rhan weithredol wrth lunio Cwricwlwm Cymru, dylanwadu ar bolisi, gwella ysgolion a chodi safonau.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn yr Ardaloedd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a chymwyseddau proffesiynol sydd angen i fod yn athro/athrawes arbennig o effeithiol.
Os dewiswch astudio o leiaf 40 credyd o'ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch wneud cais am ysgoloriaeth i dderbyn £500 y flwyddyn o'r Coleg Cymraeg. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Bydd angen i chi mynychu Digwyddiad Dethol Addysg Gynradd er mwyn astudio'r cwrs hon. Dysgu mwy.






Mewn partneriaeth â

Mewn partneriaeth â

Mewn partneriaeth â


Wedi’i achredu gan

Y 50 Dylanwadwyr Digidol Gorau ar gyfer 2020

Microsoft Innovative Expert 20/21*

2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
X125 | Llawn amser | 3 blynyddoedd | Medi | Casnewydd | C | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
X125 | Llawn amser | 3 blynyddoedd | Medi | Casnewydd | C |

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae Byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.