Hoffech chi ychwanegu at eich cymhwyster HND i ennill gradd Anrhydedd mewn bancio, cyllid a buddsoddi? Os oes gennych gefndir academaidd presennol mewn maes pwnc cysylltiedig fel busnes, cyfrifeg neu gyllid, mae'r cwrs ysgogol hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu'ch sgiliau ymhellach a gwella'ch rhagolygon swydd.
Mae'r cwrs BSc (Anrh) Bancio, Cyllid a Buddsoddi yn helpu i'ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o sefydliadau ariannol gan gynnwys banciau, rheoli buddsoddiad, ymgynghori a masnachu ecwiti.
Gan gwmpasu tair thema wahanol: Bancio, Cyllid a Buddsoddi, bydd y radd hon yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth fanwl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o fuddsoddi a masnachu mewn marchnadoedd ecwiti, marchnadoedd ariannol rhyngwladol, theori cyllid corfforaethol a bancio mewn cyd-destun rhyngwladol.
Bydd gennych fynediad i'n cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys cyfleusterau ystafell fasnachu, meddalwedd efelychu a data y farchnad a ddefnyddir yn y sector cyllid gan ddarparu dimensiwn ychwanegol i'ch dysgu.
Dysgwch fwy am gyrsiau Cyfrifeg a Chyllid yn PDC:
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
N301 | Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | ||
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
N301 | Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae Byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.