Mae data sy'n cael ei storio ar ddyfeisiau digidol yn datgelu beth rydyn ni'n ei wneud a lle rydyn ni wedi bod. Gall awdurdodau ddefnyddio'r wybodaeth hon i nodi ac euogfarnu pobl sy'n torri'r gyfraith. Mae hyn yn golygu bod galw mawr am weithwyr proffesiynol medrus sy'n gallu casglu a dehongli data digidol. Mae’r cwrs Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol uchel ei barch hwn, sydd wedi’i Achredi gan BCS yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol o'r fath.
Ar ein cwrs gradd Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol ymarferol, byddwch yn astudio pynciau sy'n cynnwys y broses fforensig gyfrifiadurol, offer a gweithdrefnau, deall tystiolaeth ddigidol, cryptograffeg, diogelwch gwybodaeth, y gyfraith a moeseg, a throsedd cyfrifiadurol.
Erbyn i chi raddio, byddwch yn gallu rheoli achos fforensig a gwneud dadansoddiad technegol o dystiolaeth gyfrifiadurol. Mae cynnwys ein gradd Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol yn cael ei lywio gan ein gwaith ymgynghori ac ymchwil. Rydym wedi delio ag achosion ar gyfer gorfodi'r gyfraith a'r llywodraeth.
Cewch eich hyfforddi mewn sgiliau ystafelloedd y llys a dysgu sut i roi tystiolaeth mewn llys barn. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gyflawni Statws Arholwr Ardystiedig AccessData fel rhan o'ch astudiaethau, sy'n gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (mae arholiad yn ddewisol a bydd ffi yn daladwy).
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG4M | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
GGK5 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG4M | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
GGK5 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.