Os nad oes gennych y graddau cywir i gofrestru'n uniongyrchol ar ein cwrs gradd BSc (Anrh) Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol , mae'r cwrs Blwyddyn Sylfaen hwn, sy'n achrededig gan BCS yn cynnig llwybr amgen i astudio ar gradd. Bydd y flwyddyn ragarweiniol ychwanegol yn rhoi'r sylfaen sydd ei hangen arnoch i ddechrau astudio ar lefel gradd. Mae'r flwyddyn sylfaen yn canolbwyntio ar astudio cyfrifiadura a mathemateg er mwyn darparu cefndir rhifyddol da a fydd yn eich cynnal trwy gydol gweddill cyfnod y cwrs gradd.
Ar y cwrs gradd Gwaith Fforensig Gyfrifiadurol ymarferol hwn sy'n uchel ei barch, byddwch yn astudio pynciau sy'n cynnwys y broses fforensig gyfrifiadurol, offer a gweithdrefnau, deall tystiolaeth ddigidol, cryptograffeg, diogelwch gwybodaeth, y gyfraith a moeseg, a throsedd cyfrifiadurol. Erbyn i chi raddio, byddwch yn gallu rheoli achos fforensig a gwneud dadansoddiad technegol o dystiolaeth gyfrifiadurol.
Mae cynnwys y cwrs yn cael ei lywio gan ein gwaith ymgynghori ac ymchwil. Rydym wedi delio ag achosion ar gyfer gorfodi'r gyfraith a'r llywodraeth. Cewch eich hyfforddi mewn sgiliau ystafelloedd y llys a dysgu sut i roi tystiolaeth mewn llys barn.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill statws Arholwr Ardystiedig AccessData fel rhan o'ch astudiaethau, sy'n gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (mae arholiad yn ddewisol a byddd ffi yn dyladwy).
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG45 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG45 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.