Mae Gemau Cyfrifiadurol ac Animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr - Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2022
Wedi'i achredu gan BCS, mae'r cwrs Datblygu Gemau Cyfrifiadurol hwn yn cynnig set o sgiliau a fydd yn eich helpu i gael gwaith fel rhaglennydd gemau. Gallech fod wrth wraidd y broses datblygu gemau cyfrifiadurol, o ysgrifennu cod, profi a thrwsio chwilod, i gynhyrchu offer er mwyn i aelodau eraill o'r tîm eu defnyddio.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn deallusrwydd artiffisial, ffiseg gêm neu rendro graffeg traws-blatfform, mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn sector ffyniannus sy'n cynnig llawer o gyfleoedd i weithio gyda chyhoeddwyr, stiwdios annibynnol neu gynhyrchwyr nwyddau canol.
Mae'r cwrs Datblygu Gemau Cyfrifiadurol hwn yn rhoi pwyslais ar raglennu ar gyfer gemau cyfrifiadurol, ond mae hefyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn datblygu meddalwedd, a dyma'ch cam cyntaf tuag at yrfa werth chweil yn y diwydiannau creadigol.
Byddwch chi'n dysgu trwy wneud, gan ddefnyddio cyfrifiaduron perfformiad uchel ac yn gweithio'n unigol ac mewn tim i gynhyrchu gemau i derfynau amser tynn. Byddwch yn gweithio ar broblemau go iawn a fydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, ac yn datblygu sgiliau allweddol i gefnogi dysgu gydol oes.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG46 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
GGK6 | Blwyddyn Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
GG46 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
GGK6 | Blwyddyn Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae Byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.