Mae Gwyddor Cyfrifiadur ym Mhrifysgol De Cymru yn ail yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Mae gwyddoniaeth gyfrifiadurol yn faes eang, o'i sylfeini damcaniaethol ac algorithmig i ddatblygiad blaengar mewn roboteg a systemau deallus.
Mae’r radd Gyfrifiadureg hon, sy’n achrededig gan BCS ac wedi’i hardystio gan y canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi’i chynllunio yn unol â safonau proffesiynol a dyma'ch cam cyntaf tuag at yrfa mewn datblygu meddalwedd diogel. Wedi'i lansio ym mis Hydref 2016, mae'r NCSC wedi cyfuno arbenigedd gan CESG (cangen sicrhau gwybodaeth GCHQ), y Ganolfan Asesu Seiber, CERT-UK, a Canolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol. Mae'r radd hon yn un o ychydig iawn i gael ei hardystio'n llwyddiannus gan y sefydliad nodedig hwn. Byddwch yn gweithio ar broblemau go iawn yn barod ar gyfer cyflogaeth, gan ddatblygu sgiliau allweddol a fydd yn eich helpu i ddatblygu’n llwyddiannus yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym.
Os mai'ch dymuniad yw dod yn rhaglennydd, yna mae cwrs cyfrifiadureg yn ddelfrydol i chi. Byddwch yn dysgu am alldynnu, cymhlethdod, newid esblygiadol, rhannu adnoddau cyffredin, diogelwch ac elfennau cydamserol.
O ymarferoldeb system i ddefnyddioldeb a pherfformiad, byddwch hefyd mewn sefyllfa well i ddatrys problemau bywyd go iawn gyda dealltwriaeth o sut maent yn effeithio ar fywydau pobl.
Fel gwyddonydd cyfrifiadurol, byddwch yn dysgu trwy wneud, defnyddio cyfrifiaduron perfformiad uchel, a gweithio'n unigol ac mewn timau i gynhyrchu atebion o fewn terfynau amser caeth, gan roi profiad uniongyrchol i chi o ddatblygiadau meddalwedd ystwyth.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
G40C | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
I101 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
G40C | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
I101 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.