Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu holl faes cyfrifiadura proffesiynol. Mae iddo elfen ymarferol gref a sawl maes y gallwch arbenigo ac ennill arbenigedd ynddynt.
Gwnaethom ddatblygu'r radd hon gyda mewnbwn gan gyflogwyr, myfyrwyr a chyrff proffesiynol. Mae hyn yn golygu bod yr hyn rydych yn ei ddysgu yn berthnasol i'r hyn y byddwch yn ei wneud pan fyddwch yn graddio, a bydd eich sgiliau'n bodloni’r safonau y mae cyflogwyr yn eu disgwyl.
Mae cyfrifiaduron yn sylfaenol i lawer o ddiwydiannau, felly gallwch gymhwyso'ch sgiliau mewn sawl maes. Mae cwmnïau o bob maint angen rheolwyr prosiect, peirianwyr meddalwedd, datblygwyr meddalwedd, rheolwyr gwybodaeth, datblygwyr gwefannau, cefnogaeth dechnegol, a mwy. Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen drylwyr yn y sgiliau angenrheidiol i agor gyrfa hyblyg mewn cyfrifiadura. Byddwch yn gallu gweithio mewn amrywiaeth eang o sectorau busnes ac mewn nifer o rolau gwahanol.
Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG. Mae achrediad yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a osodir gan BCS. Mae gradd achrededig yn rhoi hawl i chi fod yn aelod proffesiynol o BCS, sy'n rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer cael statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) trwy'r Sefydliad. Mae rhai cyflogwyr yn rhoi blaenoriaeth i recriwtio pobl gyda graddau achrededig, ac mae'n debygol y bydd gradd achrededig yn cael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol. Darganfyddwch fwy.
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael drwy Rhwydwaith75, llwybr gwaith ac astudio cyfun.
2022 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
G401 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
G401 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
I103 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
I103 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
G401 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
G401 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
I103 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
I103 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |
Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.
Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.
Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.