Mae Cerddoriaeth yn PDC ar y brig yng Nghymru am gyfleoedd dysgu, cefnogaeth academaidd - AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2023

Lleolir y radd hon yng nghampws pwrpasol PDC, yng nghanol dinas greadigol Caerdydd.

Mae BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd) yn gwrs gradd atodol am flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi treulio dwy flynedd ar gwrs cerdd perthnasol. Bydd yn sicrhau bod eich sgiliau a'ch galluoedd deallusol yn cael eu codi i'r lefel a ddisgwylir gan fyfyriwr Gradd Anrhydedd lawn, ac yn cynnig y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth ac adloniant heddiw. 

Trwy gydol y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith prosiect grŵp helaeth, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch sy'n gysylltiedig â’r diwydiant. I gael dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant a'r gweithle, byddwch yn cydweithredu â'ch cyd-fyfyrwyr ym maes perfformio, cyfansoddi, recordio ac ymchwil. Bydd y dull hwn yn cyfuno arbenigedd o fyd y theatr, recordio mewn stiwdio, sain fyw, radio, teledu, ffilm, newyddiaduraeth, cyfryngau rhyngweithiol, dylunio a mwy. 

2024 Cod UCAS Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
PH10 Amser llawn 1 flwyddyn Medi Caerdydd (ATRiuM) B
2025 Cod UCAS Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
PH10 Amser llawn 1 flwyddyn Medi Caerdydd (ATRiuM) B

Cewch eich dysgu sut i farchnata'ch hun wrth baratoi ar gyfer gyrfa mewn diwydiant, gydag amlygiad rheolaidd i ddigwyddiadau rhwydweithio creadigol a diwylliannol a sgyrsiau gan ddiwydiant yn rhan gynhenid o'ch astudiaethau. 

Mae cynnwys y cwrs wedi'i ddatblygu'n benodol ar y cyd ag ymarferwyr creadigol a thechnegol blaenllaw yn y diwydiannau creadigol. Mae natur y cwrs yn asio’r elfennau ymarferol a theori gyda phwyslais cryf ar astudiaethau galwedigaethol a chynhyrchu cynnwys digidol er mwyn darparu paratoad delfrydol ar gyfer gyrfa mewn diwydiant ar ôl graddio. 

Mae'r modiwlau canlynol ynghlwm wrth y wobr atodol hon: 

Prosiect Cynhyrchu Mawr - Byddwch yn cynhyrchu cynhyrchiad gorffenedig yn eich dewis faes i safon broffesiynol.

Prosiect Entrepreneuraidd Grŵp - Byddwch yn gwneud darn mawr o waith grŵp a fydd fel arfer yn cynnwys ymchwil gefndir, cynllunio, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu cynnyrch o safon diwydiant ynghyd â datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd.

Astudio'n Annibynnol - Byddwch yn gwneud gwaith darllen, ymchwil neu ymarferol ar bwnc o'ch dewis trwy astudiaeth annibynnol

Cynhyrchu Sain Masnachol - Byddwch yn datblygu sgiliau technolegol perthnasol ar gyfer cynhyrchu sain gan ddefnyddio technolegau sain cyfoes

Dysgu 

Ceir amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys gweithdai ymarferol yn y stiwdio, tiwtorialau, seminarau a darlithoedd. Oherwydd bod gennym ddull ymarferol mor gryf, mae pwyslais ar asesiadau ymarferol a gwaith grŵp.

Mae'r dyfarniad atodol hwn yn cynnwys elfen sylweddol o weithdy a gwaith tîm sy'n seiliedig ar aseiniadau ac a asesir yn rheolaidd, gan sicrhau bod eich sgiliau'n cael eu datblygu'n barhaus. 

Asesiad 

Gwneir asesiad cwrs trwy gyflwyniadau gwaith cwrs rheolaidd, yn ogystal ag arholiadau mewn rhai meysydd. 

Cyfleusterau 

Mae gan ein cyfleusterau y feddalwedd a'r caledwedd diweddaraf o safon y diwydiant, a fydd yn gwella'ch cyflogadwyedd yn y diwydiannau creadigol beth bynnag fo llwybr yr yrfa o'ch dewis. 

Darlithwyr


Rydym yn ailddilysu cyrsiau ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yn rheolaidd

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Rhaid i ymgeiswyr am y cwrs hwn wedi cwblhau Gradd Sylfaen mewn Cerddoriaeth yn llwyddiannus. Gellir ystyried cymwysterau lefel gyfwerth hefyd ar gyfer cael eich derbyn i'r cwrs. 

Mae’r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae’r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, bydd y ffi yn aros ar yr un gyfradd trwy gydol eich cyfnod astudio ar y cwrs hwn. 

Awst 2021 - Gorffennaf 2022 Ffioedd 

  • Amser Llawn DU: £9,000
  • Llawn Amser Rhyngwladol: £13,500

Awst 2022 - Gorffennaf 2023 Ffioedd


  • Amser Llawn DU I'w gadarnhau
  • Llawn Amser Rhyngwladol I'w gadarnhau

Manteision Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n buddsoddi mewn cymaint mwy na dim ond gradd. Rydym yn ymdrechu i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr, ni waeth beth y dewiswch ei astudio. Boed yn fynediad i lyfrau Mac a Chyfrifiaduron Personol o’r radd flaenaf, cyfleusterau o’r radd flaenaf yn llawn offer a meddalwedd sy’n arwain y diwydiant, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, neu amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau i gwrdd â phobl o’r un anian, mae gwell yfory yn dechrau gyda manteision ychwanegol.

Mae gan bob cwrs hefyd eu buddion myfyrwyr unigryw eu hunain i'ch paratoi ar gyfer y byd go iawn, a gellir dod o hyd i fanylion y rhain ar ein tudalennau cwrs. O deithiau maes byd-eang, profiad gwaith integredig ac adnoddau rhad ac am ddim yn ymwneud â chyrsiau, i fentrau a ariennir, prosiectau sy'n gweithio gyda chyflogwyr go iawn, a chyfleoedd ar gyfer cymwysterau ac achrediadau ychwanegol - yn PDC mae eich dyfodol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am fanteision myfyrwyr yn PDC.


Costau Ychwanegol 

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 


Cyllid

Cyllid i helpu i dalu am (neu orchuddio) ffioedd dysgu cwrs a chostau byw

Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

I ddysgu am ffioedd cyrsiau, opsiynau ariannu, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i'n tudalennau Ffioedd a Chyllid.

Myfyrwyr y DU

Ymgeisiwch trwy UCAS os ydych yn Ymgeisydd preswyl yn y DU, yn gwneud cais am flwyddyn 1 gradd israddedig amser llawn, Blwyddyn Sylfaen, Gradd Sylfaen neu HND ac nad ydych wedi gwneud cais trwy UCAS o'r blaen. Os ydych chi'n gwneud cais i astudio yn rhan-amser, i ychwanegu at eich Gradd Sylfaen neu HND, neu i drosglwyddo i PDC o sefydliad arall, os gwelwch yn dda gwnewch gais yn uniongyrchol

Myfyrwyr rhyngwladol a'r UE

Ymgeisiwch yn uniongyrchol i'r Brifysgol os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU. 

Gwnewch gais nawr 

Datganiad derbyn 

Mae'r radd blwyddyn atodol hon yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol. Gallai hyn gynnwys meysydd fel cynhyrchu cerddoriaeth, ond mae natur amrywiol y cwrs yn golygu y byddwch, trwy raddio, yn cymhwyso'ch sgiliau i ystod eang o yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol, megis cynhyrchu sain ar gyfer Ffilm, Teledu a Gemau. Bydd hefyd yn caniatáu ichi ddatblygu eich sgiliau fel cerddor a pherfformiwr creadigol.

Mae pwyslais cryf hefyd ar ddechrau busnes a hunangyflogaeth ac ategir hyn trwy ddatblygu sgiliau allweddol, sy'n darparu ystod o gyfleoedd gyrfa eraill.

Ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd 

Fel myfyriwr o PDC, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd trwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un i un gyda Chynghorwyr Gyrfa’r gyfadran, yn bersonol, dros y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost trwy'r gwasanaeth "Gofynnwch Gwestiwn". Mae hefyd gennym adnoddau helaeth ar-lein  i gael help i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae'r adnoddau'n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, adeiladwr CV, efelychydd cyfweliad a chymorth â cheisiadau. Mae gan ein cronfa ddata o gyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr PDC. Gallwch dderbyn hysbysiadau wythnosol am swyddi drwy e-bost.

Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau ymroddedig: tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter sy’n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth.