Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio trosedd, troseddoldeb, erledigaeth a'r system cyfiawnder troseddol, mae'r BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar eich cyfer chi. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o theori ac ymarfer mewn troseddeg, ac yn deall cyd-destun cymdeithasol trosedd a sut mae'n cael ei reoli. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae asiantaethau'n gweithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag asiantaethau cyfiawnder troseddol ac rydym yn cynnig modiwlau sy'n adlewyrchu natur gyfredol y pwnc hwn, gan wahodd siaradwyr gwadd yn aml i siarad â chi am eu gwaith. Yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli, gallwch gwblhau modiwl lleoliad gwaith, a allai eich helpu i sicrhau cyflogaeth pan fyddwch chi'n graddio.
Dewch o hyd i ni ar Twitter @USWCriminology.
Mynnwch gip ar sut beth yw astudio ym Mhrifysgol De Cymru cyn i chi wneud cais
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
M901 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
M901 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.