Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o feysydd pwnc sy'n berthnasol i ymchwilio fforensig, gan gynnwys ymchwilio safle trosedd, casglu a dadansoddi tystiolaeth, y strwythur a'r prosesau sy'n rheoleiddio'r system gyfiawnder troseddol a'r deddfau sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i droseddau.
Blwyddyn Un: Gradd Ymchwiliad Fforensig
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn derbyn cyflwyniad i'r amrywiol ddisgyblaethau ym maes gwyddoniaeth fforensig a bydd hyn yn cael ei ategu gyda phrofiad ymarferol a geir trwy archwilio safleoedd troseddau realistig wedi’i hefelychu o fwrgleriaeth ddomestig i laddiad yn ein cyfres o labordai fforensig a’n tŷ safle troseddau pwrpasol. Bydd meysydd pwnc eraill fel Plismona, Iechyd a Diogelwch, Gwyddoniaeth Ragarweiniol a Mathemateg hefyd yn cael eu hastudio. Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Cyflwyniad i Ddadansoddi Fforensig
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau sylfaenol technegau prosesu tystiolaeth trwy gyfuniad o ymarferion hyfforddi yn y labordy a dysgu seiliedig ar theori. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o ystod o dechnegau labordy a ddefnyddir i olrhain gronynnau a deunyddiau tystiolaeth fiolegol, gan gynnwys, chwilio, adfer, creu nodiadau achos cyfoes proffesiynol i gyfrannu at ffeil achos y labordy, microsgopeg sylfaenol, a phrofion cemegol am bresenoldeb deunyddiau biolegol. .
Cyflwyniad i Ymchwilio i Leoliadau Trosedd
Mae ymarfer gwyddoniaeth fforensig yn gofyn am ddealltwriaeth o amrywiaeth eang o bynciau fforensig ac mae'n cynnwys llawer o dechnegau ymchwilio. Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth ymarferol a'r gallu technegol i chi sy'n ymwneud ag ymchwilio i droseddu. Yma byddwch yn astudio cyflwyniad i ymchwilio safleoedd troseddau; dogfennaeth; casglu a chadw tystiolaeth ffisegol; dehongliad o dystiolaeth safle trosedd ac ailadeiladu safle trosedd.
Y Gyfraith, Llywodraethu a'r System Gyfiawnder Troseddol
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i system ddeddfwriaethol a chyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn cynnwys nodi rôl yr heddlu ac asiantaethau cysylltiedig, sy'n gweithio yn yr amgylchedd hwn. Byddwch hefyd yn archwilio rôl llywodraethu o fewn amgylcheddau plismona a diogelwch.
Egwyddorion Gwyddonol Sylfaenol ar gyfer Ymchwiliad Fforensig
Yn y modiwl hwn fe'ch cyflwynir i gysyniadau ymchwilio gwyddonol, mesur, cywirdeb a damcaniaethau ac arferion cemegol a biolegol hanfodol sy'n ymwneud ag ymchwiliad fforensig. Bydd hyn yn cynnwys eich cynorthwyo i ddatblygu techneg dda mewn labordy yn y meysydd hyn, ond hefyd cewch gyflwyniad i gemeg, bioleg celloedd a bioleg foleciwlaidd, seroleg, geneteg a DNA.
Cyflwyniad i Droseddeg a Dadansoddi Troseddau
Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu am yr offer gwyddonol ac ystadegol a ddefnyddir i werthuso trosedd ynghyd â'i tharddiad a'i chyd-destun, ei mynychder, a'i heffeithiau ar ddioddefwyr a chymdeithas. Byddwch yn cael darlun cyffredinol o ddosbarthiad troseddau a chysylltiadau â deallusrwydd a thystiolaeth.
Sgiliau Allweddol ar gyfer Ymcwhiliad Fforensig
Bydd y modiwl hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i chi o egwyddorion gweithio'n ddiogel mewn labordai, atal damweiniau a hyrwyddo diogelwch yn y gweithle a'r effaith ar iechyd yn sgil dod i gysylltiad â pheryglon. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r wybodaeth sy'n ymwneud â pheryglon wrth arfer gwaith arbrofol ac wrth gyfrifo tebygolrwydd damwain ac i amcangyfrif risg. Hefyd, darperir y defnydd o TG ar gyfer gweithio gwyddonol, cyrchu cyfnodolion a sgiliau cyfeirio.
Blwyddyn Dau: Gradd Ymchwiliad Fforensig
Yn ystod yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gwella'ch sgiliau ymhellach trwy ddadansoddi tystiolaeth yn y labordy, gan ddysgu am yr amrywiol ddadansoddiadau cemegol a biolegol a ddefnyddir mewn labordai fforensig. Cyflwynir yma ddisgyblaethau arbenigol fel ffotograffiaeth, Gwaith Fforensig Gwyddorau’r Ddaear, Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol a microsgopeg. Mae'r modiwlau a astudir yn cynnwys:
Dadansoddi a Dehongli Tystiolaeth
Ymestyn galluoedd ymarferol a gwybodaeth y myfyriwr yn ymwneud â dadansoddi tystiolaeth hybrin gronynnol a biolegol gyda ffocws arbennig ar ddefnyddio offeryniaeth o safon sector, prosesau rheoli ansawdd a dogfennaeth o safon sector. Cyflwyno myfyrwyr i ddehongli a chyflwyno data gwyddonol a gynhyrchir o dechnegau dadansoddol.
Archwiliad Cyfaint i Safleoedd
O fewn y modiwl hwn byddwch yn meithrin profiad o ddelweddu digidol ymarferol, ffotograffiaeth safle trosedd a saethu fideo wrth recordio amrywiaeth o senarios safleoedd troseddau. Bydd hyn yn cynnwys astudio agweddau damcaniaethol ffotograffiaeth, ac offer: Ffilmiau a chyflymder ffilm, fformatau camera, hyd ffocal, agorfa a dyfnder ffocws, technegau goleuo a fflach. Yn ogystal â hyn, byddwch yn meithrin hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau craidd ar gyfer yr ymchwilydd safle trosedd mewn cyfres o safleoedd troseddau cyfaint wedi’u hefelychu gan gynnwys archwilio cerbydau.
Archwiliad Fforensig o Weddillion Dynol
Cyflwyno myfyrwyr i'r agweddau strategol ac unigryw sy'n gysylltiedig â dadansoddi gweddillion dynol. Darparu disgrifiad manwl o'r dulliau gwyddonol a thechnolegol a ddefnyddir wrth ymchwilio i ddioddefwyr troseddau neu drychinebau naturiol.
Gwaith Fforensig Digidol (e-droseddu)
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ac yn gwerthuso'r offer a'r technegau sy'n gysylltiedig â chreu a darparu gwasanaeth fforensig cyfrifiadurol o fewn amgylchedd tîm. Byddwch yn dysgu dangos gwybodaeth a sgìl yn y prosesau sy'n ofynnol i reoli prosiect fforensig, o'r atafaelu cychwynnol i gyflwyno tystiolaeth yn ystafell y llys.
Seicoleg Fforensig a Strategaethau Ymchwilio
Yn y modiwl hwn byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r dulliau adweithiol a rhagweithiol o ymchwilio i droseddau. Byddwch yn deall natur gymhleth cymhelliant troseddwyr a'r canlyniadau i safle’r drosedd. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys cyflwyniad i faes cymhleth seicoleg fforensig a'i rôl a'i ddefnydd yng ngweithdrefn ymchwilio i droseddau.
Gwyddoniaeth ar Waith ar gyfer Ymchwiliad Fforensig
Byddwch yn dysgu am fynychder, cam-drin ac effeithiau cyffuriau ac alcohol ac archwiliad fforensig iddynt. Bydd hyn yn cynnwys dopio yn y byd chwaraeon, dadansoddi gwallt ac wrth ymchwilio i gynnyrch defnyddwyr. Yn ogystal â hyn, byddwch yn dod i werthfawrogi rôl data gwyddorau’r ddaear wrth wneud archwiliad fforensig o safleoedd troseddau neu ddigwyddiadau a gofnodwyd.
Blwyddyn Tri: Gradd Ymchwiliad Fforensig
Cewch eich cyflwyno i feysydd Ymchwiliad Fforensig mwy cymhleth fel Tân a Ffrwydradau a meysydd Arbenigol o Ymchwiliad Fforensig. Bydd y pwyslais yn parhau i fod ar drywydd Plismona'r cwrs a phwysigrwydd prosesu safleoedd troseddau, a thrin tystiolaeth yn y labordy. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol adolygu llenyddiaeth. Mae'r modiwlau a astudir yn cynnwys:
Prosiect Ymchwil a Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso achosion a thystiolaeth yn wyddonol a gwerthusiad ystadegol o dystiolaeth fforensig a moeseg a safonau proffesiynol. Bydd achosion yn cynnwys patholeg fforensig, lladdiad, hunanladdiad a marwolaeth ddamweiniol ymhlith eraill. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i brosesau ystafell y llys a rôl y tyst arbenigol, bargyfreithwyr, croesholi a’r brif dystiolaeth. Yn rhan o'r modiwl hwn, byddwch yn cynnal adolygiad llenyddiaeth a fydd yn cynnwys gwerthusiad beirniadol o wybodaeth sylfaenol a data ar bwnc dethol o fewn gwyddoniaeth fforensig.
Gwaith Achos Fforensig a'r Tyst Arbenigol
Caniatáu datblygu a chymhwyso sgiliau gwaith tîm, meddwl beirniadol a fforensig trwy ddylunio a phrosesu arbrawf o achos fforensig efelychiadol gan roi sylw arbennig i dystiolaeth DNA, paent a gwydr, SA a dehongli data dadansoddol gan ddefnyddio dulliau ystadegol. Galluogi'r myfyriwr i atgyfnerthu a datblygu ei ddealltwriaeth o'r rheoliadau sy'n berthnasol i ymarferwyr fforensig wrth ddadansoddi, dehongli a chyflwyno tystiolaeth a datblygu gwybodaeth a sgiliau i allu darparu tystiolaeth tyst.
Plismona Traffig Ffyrdd ac Ymchwilio i Gerbydau
Derbyn cyfarwyddyd damcaniaethol ac ymarferol mewn archwilio a dehongli digwyddiadau traffig, gan gynnwys technoleg GIS, cyfrifiadau cyflymder a phroffiliau treiddiad cerbydau. Dadansoddi deddfwriaeth plismona ffyrdd cymhleth yn feirniadol.
Pynciau Arbenigol mewn Troseddeg
Rhoi gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o ystod eang o droseddau arbenigol a difrifol gan gynnwys astudio eu tarddiad, cymhelliant troseddwyr, y gallu i olrhain gan gynnwys ffocws ar dystiolaeth, a'r fframweithiau cyfreithiol a chosbau cysylltiedig. Rhoi cyfle i fyfyrwyr werthfawrogi troseddau difrifol a chyfundrefnol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a byd-eang.
Tystiolaeth Arbenigol a'i Ymchwiliad
Yn y modiwl hwn byddwch yn cael dealltwriaeth o amrywiaeth o feysydd ymchwilio arbenigol gan gynnwys gwaith fforensig bywyd gwyllt, peirianneg fforensig ac ymchwilio i beryglon biolegol a radiolegol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am fioderfysgaeth a’r ymchwil iddo a gwaith fforensig bywyd gwyllt.
Arcwhiliad Safle Sylweddol
Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth fanwl am y broses ymchwilio troseddol fforensig a chael dealltwriaeth feirniadol sy'n berthnasol i amrywiaeth o droseddau arbenigol a difrifol a ddisgrifir fel ymchwiliadau digwyddiad sylweddol. Byddwch yn defnyddio dysgu cysylltiedig trwy ddod i gysylltiad â senarios safle sylweddol sy’n berthnasol ac wedi’u hefelychu ac astudiaethau achos.
Mae'r canllaw hwn y gellir ei lawrlwytho yn caniatáu ichi gymharu modiwlau ar draws ein holl gyrsiau Fforensig.
Dysgu
Cyflwynir y cwrs Ymchwiliad Fforensig trwy gyfres o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a dosbarthiadau ymarferol. Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd â dysgu dan gyfarwyddyd ac yn annibynnol, gan ddarllen am faes y pwnc.
Mewn wythnos arferol, gellir disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r canlynol:
• Chwe darlith
• Tair i bedair awr o sesiynau tiwtorial neu weithdai
• Hyd at 10-12 awr o waith ymarferol
• Astudiaeth annibynnol dan gyfarwyddyd
Gellir gwasgaru'r amserlen dros bob un o bum niwrnod yr wythnos a addysgir (o ddydd Llun i ddydd Gwener yn gynwysedig) neu mae modd, er enghraifft, ryddhau myfyrwyr am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o ddosbarthiadau cyswllt. Gall hyn newid yn wythnosol yn dibynnu pryd mae gweithgareddau unigol ar gyfer modiwlau yn cael eu hamserlennu.
Gwahoddir darlithwyr gwadd i siarad â myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau.Ymhlith y pynciau blaenorol oedd ymchwilio i danau, achosion balistig ac adnabod cyrff o feddau torfol.
Asesiad
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn sawl ffordd, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, mewn profion dosbarth, traethodau, adroddiadau, ymarferion ymarferol, cyflwyniadau, sesiynau tiwtorial wedi'u hasesu ac aseiniadau cyfrifiadurol. Bydd rhai modiwlau'n cael eu hasesu'n barhaus ac efallai y bydd eraill yn cael arholiad diwedd blwyddyn.