Roedd 91% o’n myfyrwyr BSc (Anrh) Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn fodlon â’u cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Mae'r BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi yn cynnig addysg fusnes integredig sy'n wynebu'r dyfodol sy'n cwmpasu'r prif ddisgyblaethau a meysydd gweithredol busnes, wrth ganolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r cymwyseddau sy'n ofynnol mewn marchnad lafur gyfoes ac yn y dyfodol.
Athroniaeth drosfwaol ein gradd sydd newydd ei dylunio yw cefnogi a gwella dilyniant, cyflawniad a llwyddiant, wrth herio ein myfyrwyr i ddod yn rheolwyr proffesiynol, uchelgeisiol a meddwl byd-eang mewn amgylchedd economaidd cymhleth, deinamig. Mae'r cwrs yn bartneriaeth ystyrlon rhwng myfyrwyr, cyflogwyr ac Ysgol Fusnes Cymru, gydag arloesiadau clir mewn dysgu yn y gwaith, asesu ar gyfer dysgu a mentrau addysgu a dysgu.
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
JNF9 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
JNF9 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.