Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06
Mae rheolwyr marchnata yn arwain busnes yn ei ymdrechion i ddeall, creu a chadw cwsmeriaid. Mae rheoli marchnata yn gymysgedd o gelf a gwyddoniaeth sydd angen creadigrwydd, data ac arloesedd i lwyddo. Byddwch chi'n dysgu'r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn eich rhyngweithio â busnesau go iawn trwy gydol eich astudiaeth.
Bydd astudio’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i berfformio marchnata effeithlon, effeithiol a gafaelgar. Byddwch yn cael eich trochi mewn meysydd marchnata allweddol fel ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu marchnata ac ymchwil i'r farchnad. Trwy asesiad hyblyg a chreadigol, byddwch yn adeiladu portffolio o waith sy'n dangos ystod o sgiliau ac ymddygiadau rheoli marchnata dymunol.
Byddwch yn cael cyfle i ennill Tystysgrif Lefel 4 y Sefydliad Siartredig Marchnata mewn Marchnata Proffesiynol, ochr yn ochr â chymwysterau ymarferwyr eraill o'ch dewis, i gyd fel rhan o'ch rhaglen astudio. Rheoli Marchnata BSc (Anrh) yw'r unig radd farchnata yn y DU i gael ei chydnabod gan dri chorff proffesiynol gwahanol. Trwy astudio yn USW, gallwch ymuno â rhaglen Porth Graddedigion y Sefydliad Siartredig Marchnata. Mae'r cwrs hefyd yn cael ei gydnabod gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, a'r Sefydliad Marchnata Uniongyrchol a Digidol.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
N51F | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
N51F | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.