Mae’r meini prawf mynediad isod yn adlewyrchu ein gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs ar gyfer mis Medi 2023. Fodd bynnag, caiff pob cais a dderbynnir gan y Brifysgol ei adolygu’n gyfannol ac yn unigol. Mae meini prawf mynediad ar gyfer Medi 2024 yn newid a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ucas.com o 8fed Mai 2023. Bydd meini prawf mynediad ar gyfer Medi 2024 yn cael eu diweddaru ar ein gwefan o ddiwedd mis Hydref 2023.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi’n byw a’r ysgol neu goleg y buoch yn ei mynychu er enghraifft), eich profiadau a’ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy’n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i’n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae Prifysgol De Cymru yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae’r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â’r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy’n ei gwneud yn fwy anodd i gael mynediad i brifysgol. Dyma ddolen i'n Polisi Derbyniadau Cyd-destunol.
Cymwysterau a phrofiad eraill
Gallwn hefyd ystyried cyfuniadau o gymwysterau, ac efallai y bydd cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma hefyd yn dderbyniol. Weithiau gallwn ystyried credydau a enillwyd mewn prifysgolion eraill a'ch profiad gwaith/bywyd trwy asesiad o ddysgu blaenorol. Gall hyn fod ar gyfer mynediad blwyddyn un, neu fynediad uwch i flwyddyn dau neu dri o gwrs lle bo hyn yn bosibl.
I ddarganfod pa gymwysterau sydd â phwyntiau tariff, cyfeiriwch at gyfrifiannell tariff UCAS.
Os oes angen mwy o help neu wybodaeth arnoch neu os hoffech siarad â'n tîm mynediadau cyfeillgar, cysylltwch â ni yma.
Cynnig Lefel A nodweddiadol
EE i gynnwys un Lefel A mewn pwnc Gwyddoniaeth perthnasol ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol
Amherthnasol
Cynnig nodweddiadol BTEC
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio mewn pwnc perthnasol
Cynnig IB nodweddiadol
Pasio Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol gydag o leiaf 80 pwynt tariff UCAS o Lefelau Uwch i gynnwys Gwyddoniaeth neu Fathemateg.
Cynnig Mynediad Nodweddiadol i AU
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Gofynion Mynediad Rhyngwladol
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau rhyngwladol sydd â chymwysterau cyfatebol. Ewch i'r tudalennau gwlad-benodol ar ein gwefan ryngwladol am yr union fanylion.
Os nad yw'ch cymwysterau presennol yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer mynediad i flwyddyn 1 o'ch dewis radd israddedig, rydym yn cynnig Rhaglenni Sylfaen Rhyngwladol blwyddyn trwy ein partneriaeth llwybr gyda QAHE i'ch helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer dilyniant. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n gwefan Pathway.
Gofynion Saesneg
Yn gyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol fod wedi cyflawni gradd cyffredinol IELTS o 6.0 gydag isafswm sgôr o 5.5 ym mhob cydran.
Fodd bynnag, os ydych chi wedi astudio o'r blaen trwy gyfrwng y Saesneg efallai na fydd angen IELTS, ond ewch i'r dudalen gwlad benodol ar ein gwefan ryngwladol am yr union fanylion. Os nad yw'ch gwlad yn cael ei nodi cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.