Roedd 100% o’n myfyrwyr Gradd Sylfaen Seicoleg yn fodlon ar eu cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023
Mae'r Flwyddyn Sylfaen mewn Seicoleg yn rhan o raglen radd pedair blynedd integredig, ac mae wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn cwrdd â'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) Seicoleg.
Bydd y cwrs Seicoleg hwn yn caniatáu ichi archwilio meysydd gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg ac ystadegau, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i barhau ar gwrs Gradd a chael cyfle i gyflawni eich dyheadau.
Addysgir y cwrs hwn dros dri diwrnod yr wythnos i ganiatáu i fyfyrwyr reoli astudio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu eraill.
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
CC80 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2025 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
CC80 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyn-taf. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.