Graddau Amgylchedd Adeiledig PDC yn cael eu graddio orau yng Nghymru (Adeilad, Complete University Guide 2023)
Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maen nhw'n ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau yn effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient.
Trwy gydol prosiect adeiladu, mae syrfewyr meintiau yn chwarae rhan fawr. Mae hyn yn cynnwys pob cam o ddylunio, adeiladu a gweithredu datblygiadau eiddo, gan gynnwys preswyl, masnachol, diwydiannol a manwerthu, yn ogystal â phrosiectau seilwaith fel ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd awyr. Erbyn i chi raddio o'r radd Tirfesur Meintiau, bydd gennych y sgiliau a'r cymwysterau ar gyfer gyrfa werth chweil sy'n talu'n dda.
Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill y sgiliau i reoli'r ystod o dasgau sy'n gysylltiedig â phrosiect adeiladu, gan ddysgu datblygu craffter masnachol, meddwl yn annibynnol, ac ymarfer sgiliau arolygu maint y gofynnir amdanynt fel mesur. Byddwch yn barod i fynd i'r afael yn hyderus â'r materion cymdeithasol, economaidd a thechnegol sy'n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu o bob maint.
Gyda chyflogadwyedd wedi'i ymgorffori fel rhan ohono, mae'r cwrs yn cyd-fynd â gofynion cyrff proffesiynol gan gynnwys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), gan sicrhau eich bod chi'n gallu rhagori fel myfyriwr graddedig o PDC. Trwy astudio gradd Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol sydd wedi'i achredu gan RICS, byddwch yn dysgu sgiliau a chymwyseddau sy'n uniongyrchol berthnasol i arfer a safonau'r diwydiant.
Mae ein graddedigion tirfeur meintiau yn cael eu parchu'n eang. Maent yn gweithio ym mhob sector adeiladu o dai i brosiectau seilwaith mawr ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael trwy Network75, llwybr sy'n cyfun gwaith ac astudio.
2022 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
K242 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
Amherthnasol | Rhan amser | 5 mlynedd | Medi | Trefforest | A | |
K243 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
K242 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
Amherthnasol | Rhan amser | 5 mlynedd | Medi | Trefforest | A | |
K243 | Rhyngosod | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.