Graddau Amgylchedd Adeiledig PDC yn cael eu graddio orau yng Nghymru (Adeilad, Complete University Guide 2023)
Os nad oes gennych y cymwysterau cywir i ddechrau ar ein gradd BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol tair blynedd, gallech ddewis dechrau eich astudiaethau gyda blwyddyn sylfaen.
Bwriad y flwyddyn ychwanegol yw rhoi'r paratoad gorau posibl i chi ar gyfer llwyddiant ar y radd. Byddwch yn astudio modiwlau rhagarweiniol sy'n berthnasol i'r cwrs gradd wrth ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer astudio academaidd. Bydd cwblhau'r flwyddyn sylfaen ragarweiniol yn llwyddiannus yn caniatáu ichi symud ymlaen i'r cwrs gradd.
Wrth astudio’r radd hon mewn Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol, sydd wedi’i hachredu gan RICS, byddwch yn dysgu sgiliau a chymwyseddau sy’n uniongyrchol berthnasol i arfer a safonau’r diwydiant.
Byddwch yn ennill y sgiliau i reoli'r ystod o dasgau sy'n gysylltiedig â phrosiect adeiladu, dysgu sut i gymryd cyfrifoldeb am gynllunio a rheoli ariannol, a gallu goresgyn heriau sy'n gysylltiedig â chostau adeiladu.
Erbyn i chi raddio o'r radd Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol, bydd gennych y sgiliau a'r cymwysterau ar gyfer gyrfa werth chweil sy'n talu'n dda.
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
KK24 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
KK24 | Llawn amser | 4 blynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.