Yn y flwyddyn gyntaf, cyflwynir pileri thematig yr Amgylchedd Adeiledig. Mae'r themâu hyn yn ymwneud â'r Gyfraith, Theori Cost a Gwerth, Technolegau Adeiladu, Rheoli, Technolegau Digidol, Cynaliadwyedd, Datblygiad a Moeseg. Mae'r flwyddyn gyntaf yn un generig ar draws pob un o'r cyrsiau gradd israddedig o fewn y portffolio Amgylchedd Adeiledig, gan ganiatáu symudiad di-dor ar draws y portffolio ar yr adeg hon os yw myfyrwyr yn dymuno canolbwyntio ar radd arall.
Yn yr ail flwyddyn, mae'r pileri thematig hyn yn parhau, ond yn cael eu harchwilio ar lefel ganolradd, gan ychwanegu Rheoli Prosiectau, Cyfraith Fasnachol a Thai, Cynllunio a Chymunedau. Cyflwynir modiwlau arbenigol mewn Prisio Eiddo, Rheoli Adeiladau a Gwerthuso Buddsoddiadau a Rheoli Eiddo. Mae'r rhain yn cyfuno i hybu'r wybodaeth a'r cymhwysiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen i'w blwyddyn olaf.
Erbyn y flwyddyn olaf mae myfyrwyr yn canolbwyntio ar fireinio'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen a gwella eu priodoleddau graddedigion. Mae nifer o'r pileri thematig yn cyrraedd lefel uwch wrth gymhwyso gwybodaeth. Astudir Prisio Eiddo Uwch a Chyfraith Eiddo ar Waith, gan ganolbwyntio ar gymwyseddau craidd. Mae modiwl Rheolaeth Fasnachol a Menter yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu nodweddion graddedigion ymhellach a'u paratoi ar gyfer cyflogaeth gyda phroffesiwn yr Amgylchedd Adeiledig. Mae Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio yn yr Amgylchedd Adeiledig yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r heriau hollbwysig y mae'r diwydiant yn eu hwynebu. Mae'r traethawd estynedig yn galluogi myfyrwyr i wneud ymchwil o'u dewis, tra'n cymhwyso meddwl beirniadol a dadansoddi.
Blwyddyn Un: Gradd Tir ac Eiddo
- Cyfraith Amgylchedd Adeiledig (20 credyd)
- Economeg Amgylchedd Adeiledig (20 credyd)
- Egwyddorion Amgylchedd Adeiledig (20 credyd)
- Technolegau Digidol (20 credyd)
- Datblygu a Chymdeithas (20 credyd)
- Technoleg Adeiladu (20 credyd)
Blwyddyn Dau: Gradd Tir ac Eiddo
- Rheoli Adeiladau (20 credyd)
- Prisio Eiddo (20 credyd)
- Tai, Cynllunio a Chymunedau (20 credyd)
- Arfarnu Buddsoddiadau a Rheoli Eiddo (20 credyd)
- Rheoli Prosiectau ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)
- Cyfraith Fasnachol (20 credyd)
Blwyddyn Tri: Gradd Tir ac Eiddo
- Traethawd Estynedig Amgylchedd Adeiledig (40 credyd)
- Rheolaeth Fasnachol a Menter (20 credyd)
- Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio yn yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd)
- Prisio Eiddo Uwch (20 credyd)
- Cyfraith Eiddo ar Waith (20 credyd)
Dysgu
Cyflwynir y cwrs hwn mewn modd bloc gyda phob un o’r 6 modiwl fesul blwyddyn amser llawn yn cael eu cyflwyno dros 12 wythnos. Mae darpariaeth ran-amser yn amrywio rhwng 3 neu 4 modiwl y flwyddyn. Mae cyflwyno'r modd bloc yn caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar fodiwl mewn dull trochi.
Mae myfyrwyr amser llawn yn cael eu hamserlennu dros 2 ddiwrnod yr wythnos, gyda myfyrwyr rhan-amser yn astudio un diwrnod yr wythnos.
Rydym yn darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr ymgysylltu â chyflogwyr, diwydiant a chyrff proffesiynol, yn enwedig trwy ddysgu ar sail problemau a her gan ddefnyddio astudiaethau achos prosiect byw, darlithwyr gwadd a digwyddiadau corff proffesiynol.
Asesisad
Asesir myfyrwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o fathau o asesu gan gynnwys Adroddiad, Portffolio, Cyfnodolyn Arsylwi, Cyflwyniad, Prawf Dosbarth, Arholiad, Astudiaeth Achos, Traethawd, Prosiect, Trafodaethau Proffesiynol a Thraethawd Estynedig. Mae amrywiaeth o fathau o asesu yn bwysig er mwyn rhoi pob cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth. Mae yna hefyd elfen o ddewis myfyrwyr ar bob lefel. Dyma lle gall myfyrwyr ddewis sut i gwblhau asesiad o restr ddiffiniedig.
Bydd rhanddeiliaid allanol yn ymwneud â chynllunio asesiadau ac yn cefnogi asesu problemau a heriau sy'n gysylltiedig â gwaith trwy ymweliadau safle a darlithoedd gwadd.