Mae'r Flwyddyn Sylfaen mewn Tir ac Eiddo yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) mewn Eiddo Tiriol.
Eiddo Tiriol yw conglfaen yr Amgylchedd Adeiledig. Mae angen gofodau ar gymdeithas i fyw a gweithio ynddynt a chefnogi gweithrediad ein heconomi.
Mae'r cwrs BSc (Anrh) Tir ac Eiddo yn archwilio hanfodion yr Amgylchedd Adeiledig gan ganolbwyntio ar bileri thematig fel Adeiladu, Cyllid, y Gyfraith, Technoleg a Rheolaeth, gyda ffocws ar sgiliau Eiddo Tiriog megis Prisio a Rheoli Asedau.
Mae gan y cwrs ffocws cyflogadwyedd cryf gan ddatblygu mewnwelediad i reolaeth fasnachol a menter a gellir ei astudio'n llawn amser yn ogystal â rhan-amser, gan roi cyfle i ennill a dysgu.
Byddai gan raddedigion BSc (Anrh) Tir ac Eiddo ddewis o amrywiaeth o rolau ar draws y sector cyhoeddus ym meysydd iechyd, addysg a thai, ac yn y sector preifat mewn ymgynghorith a chwmnïau eiddo tiriog masnachol.
Mae'r cwrs hwn yn amodol ar ddilysiad.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
K44F | Llawn Amser | 4 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
K44F | Llawn Amser | 4 flwyddyn | Medi | Trefforest | A |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.