Ychydig iawn o yrfaoedd sy'n cael cymaint o gyfle â gwaith cymdeithasol i gefnogi pobl. Yn aml, mae anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau mewn cymdeithas yn creu diwylliannau i bobl sy'n ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r proffesiwn gwaith cymdeithasol yn cydnabod y diwylliannau hyn ac yn ymdrechu i gefnogi pobl i reoli eu sefyllfaoedd ac i wneud newidadau cadarnhaol.
Mae gradd gwaith cymdeithasol PDC yn seiliedig ar Fframwaith Asesu Cymru Gyfan ar gyfer Gwaith Cymdeithasol, sy'n cynnwys y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol, a Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n graddio gyda'r cymhwyster proffesiynol sy'n ofynnol i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol. Os gwnewch gais trwy UCAS, efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru (yn ddarostyngedig i'w hamodau).
Mae'r radd gwaith cymdeithasol yn cynnwys elfennau academaidd ac ymarferol. Bydd hanner eich amser yn cynnwys cyfleoedd dysgu ymarferol mewn sectorau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector. Bydd hyn yn helpu i gyfnerthu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau, a'ch paratoi ar gyfer byd gwaith.
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L500 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2025 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L500 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.