Os ydych chi eisiau cyflogaeth uwch yn y diwydiant adeiladu, bydd y cwrs HNC Arolygu hwn yn rhoi dealltwriaeth lefel uchel i chi o ofynion dylunio, swyddogaeth, adeiladu a statudol adeiladau o bob math.
Mae ein HNC Arolygu yn cael ei barchu gan gyflogwyr oherwydd ei fod yn cynnig digon o brofiad ymarferol o'r tasgau a'r gofynion y mae gweithwyr adeiladu proffesiynol yn eu hwynebu.
Yn fwy na hynny, mae cwblhau'r HNC Arolygu yn cwrdd â'r gofynion academaidd ar gyfer mynediad i gymhwyster Cysylltiol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Byddwch yn datblygu gwybodaeth am gynnal a chadw adeiladau, sicrhau ansawdd, rheoli cynnal a chadw, technegau adeiladu, deunyddiau adeiladu, archwilio adeiladau, gwasanaethau adeiladu a gweithdrefnau contract.
Os ydych yn cwblhau'r HNC Arolygu yn llwyddiannus, fe allech chi ychwanegu at eich cymhwyster gyda gradd Anrhydedd achrededig proffesiynol.
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amherthnasol | Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amherthnasol | Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.