Bydd ein HND Peirianneg Drydanol ac Electronig yn dysgu egwyddorion peirianneg craidd i chi ac yn dangos sut y gellir defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei hennill yn effeithiol yn y gweithle.
Dyluniwyd yr HND Peirianneg Drydanol ac Electronig i fireinio'ch sgiliau, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer peirianwyr sy'n gweithio ym maes dylunio electronig, peirianneg pŵer, cynhyrchu a chynnal a chadw.
Mae'r cwrs dwy flynedd, rhan-amser hwn yn caniatáu i raddedigion HNC, mewn disgyblaeth gysylltiedig, i gwblhau HND mewn Beirianneg Drydanol ac Electronig. Ar ôl cwblhau'r HND yn llwyddiannus, mae cyfle pellach i symud ymlaen i'n cwrs BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Ychwanegol).
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A | ||
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.