Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06
Mae Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru ar gyfer cymuned dysgu. - AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2022
Mae’r radd LLB (Anrh) Cyfiawnder Troseddol yn gwrs ysgogol a heriol sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol, technoleg a chyflogadwyedd.
Bydd yr LLB Cyfiawnder Troseddol hwn yn cyfuno sylfeini gwybodaeth gyfreithiol gyda ffocws cyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol. Bydd yn apelio at fyfyrwyr sydd â diddordeb arbennig yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg ar y berthynas rhwng cyfraith droseddol, trosedd a chyfiawnder cymdeithasol; bydd yn helpu myfyrwyr i ddeall yn well achosion, canlyniadau ac atal trosedd o safbwyntiau cymdeithasol, cyfreithiol a gwleidyddol.
Mae cyflogadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn. Ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn elwa o’n Clinig Cyngor Cyfreithiol arobryn, sy’n darparu cyfleoedd i bob myfyriwr y gyfraith ennill sgiliau hanfodol y gallwch fynd â nhw gyda chi i’r gweithle. Yn ogystal â hyn, mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant ac rydym yn croesawu amrywiaeth o siaradwyr gwadd sy'n arbenigwyr yn eu maes, i ddarparu cyd-destun ac enghreifftiau bywyd go iawn yn ymwneud â'r pynciau rydych chi'n eu hastudio.
Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gallwch ddod yn rhan o’n Cymdeithas Cyfreithwyr Myfyrwyr PDC ffyniannus a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, cymdeithasol a rhwydweithio. Mae myfyrwyr yn elwa o'n harbenigedd mewn ymryson o Flwyddyn 1 a gallant hefyd gymryd rhan mewn cystadlaethau ymryson.
Gellir astudio'r cwrs hwn yn rhan-amser neu'n llawn amser.
2022 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
M902 | Llawn Amser | 3 blwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 6 blwyddyn | Medi | Trefforest | A | ||
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
M902 | Llawn Amser | 3 blwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 6 blwyddyn | Medi | Trefforest | A |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.