Mae cwrs LLM Cyfreithiau yn cynnig dull hyblyg o astudio ôl-raddedig, lle gallwch chi deilwra'r rhaglen i weddu i'ch anghenion penodol a'ch dyheadau gyrfaol.
Mae'r radd LLM hon yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol, yn ogystal â'r rhai sy'n ceisio cynyddu eu gwybodaeth yn y maes hwn. Y tu allan i’r tymor, cewch gyfle i wirfoddoli yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol y Brifysgol. Yno, cewch gyfle i roi'r wybodaeth a'r sgiliau rydych chi wedi'u hennill ar y cwrs ar waith. Bydd y Clinig yn caniatáu ichi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r proffesiwn cyfreithiol, a gweithio gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol ag enw da.
Mae Prifysgol De Cymru yn un o’r 50 Ysgol y Gyfraith orau, yn ôl Tablau Cynghrair y Guardian, ac mae’n ymfalchïo yn ei addysgu rhagorol a'i gefnogaeth i fyfyrwyr.
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A | |
2025 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.