
Mae'r radd meistr mewn Drama hon yn adlewyrchu'r byd proffesiynol cyfoes sy'n galw am ymarferwyr hyblyg, arloesol sy'n barod ac yn gallu gweithio ar draws yr ystod lawn o theatr a chyfryngau. Gallai'r rolau hyn amrywio o sefydliadau proffesiynol prif ffrwd i gyd-destunau cymhwysol a chymunedol.
P'un a ydych chi'n artist profiadol sy'n dymuno cael yr amser a'r lle i ddatblygu'ch ymarfer, neu'n cychwyn yn eich gyrfa fel gwneuthurwr theatr, ymarferydd drama, storïwr neu addysgwr, bydd y cwrs MA Drama yn eich helpu i gyflawni'ch potensial.
Mae gan y cwrs lefel uchel o archwilio ymarferol, wedi'i danategu gan fyfyrio beirniadol, gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth ragorol. Mae'r ethos gor-redol ar ymarfer myfyriol: gwneud gwaith, ysgrifennu amdano, gwylio gwaith, ac archwilio gwahanol ddulliau yn feddylgar.
Er bod y pwyslais ar theatr, mae cyfleoedd i weithio trwy gyfryngau eraill i'r myfyrwyr hynny sydd â phrofiad a dyheadau priodol.
2023 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amser llawn | 1 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan-amser | 2 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amser llawn | 1 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan-amser | 2 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.