
Mae'r MA Ffilm yn gyfle newydd i astudio ffilm ar lefel Ôl-raddedig yng Nghaerdydd. Mae'r cwrs yn darparu sylfaen gyffredinol gref yn anghenion diwydiant Ffilm a Theledu cyfoes Prydain gyda chyfleoedd i ddatblygu a hogi sgiliau allweddol trwy sawl llwybr sy'n arwain cyfleoedd gyrfa gwahanol yn uniongyrchol. Trwy gyfuno'r gwahanol ddisgyblaethau hyn, mae myfyrwyr yn ennill y cyfle i gydweithio â'i gilydd, gyda myfyrwyr eraill o PDC a gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant i ddatblygu eu sgiliau i lefel uwch.
Mae'r llwybr MA Ffilm (Sinematograffeg) wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno cyfuno addysg ehangach yn y diwydiant ffilm a theledu a sgiliau gwneud ffilmiau cyffredinol ag adeiladu eu portffolio a'u sgiliau Sinematograffeg.
Anogir ymgeiswyr sy'n ansicr ynglŷn â pha lwybr y dylent wneud cais amdano i gysylltu â thîm y cwrs i gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais. Os dewiswch wneud cais am fwy nag un llwybr, dylai eich portffolio arddangos eich diddordeb a'ch profiad ym mhob maes unigol ac felly efallai y bydd angen mwy nag un portffolio.
2024 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad Cychwyn | Campws | Cod Campws |
N/A | Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.