
Mae'r llwybr gradd Meistr Ffilm hwn mewn Rheoli Cynhyrchu yn rhoi'r cyfle i chi gychwyn gyrfa garlam yn Adran Cynhyrchu cwmnïau Ffilm a Theledu.
Mae’r llwybr Rheoli Cynhyrchu yn adeiladu ar brofiad ymgeisydd mewn gwneud ffilmiau, boed hynny mewn cyd-destunau proffesiynol neu addysgol, cyn eu cais am le ar y cwrs. Dylai portffolios ddangos dawn ar gyfer gwneud ffilmiau a rheoli busnes. Mae’r llwybr hwn yn arbenigo mewn gwaith adran gynhyrchu gan gynnwys rheoli cynhyrchu, cyfarwyddo a chynhyrchu cynorthwyol, a fydd yn cael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth, trwy ymgysylltu â rhedeg prosiectau gyda myfyrwyr eraill, a thrwy brofiad gwaith.
Gan ddysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol blaenllaw'r diwydiant mewn ffilmiau nodwedd, drama deledu a genres teledu ffeithiol, byddwch yn ennill y sgiliau a'r mewnwelediad sydd eu hangen arnoch i reoli cynhyrchiad ffilm neu deledu yn llwyddiannus, boed hynny ar gyfer cwmni sefydledig neu un y byddwch yn ei greu.
Byddwch yn astudio yng nghanol Caerdydd, sy’n gartref i ddiwydiant ffilm a theledu llewyrchus, gan gynnwys Bad Wolf Studios, Dragon Studios, Great Point Seren Studio Wales a BBC Cymru, lle caiff sioeau sy’n cynnwys Doctor Who a Sherlock eu ffilmio yng nghanol rhagoriaeth drama ym Mhorth y Rhath, a rhaglenni heb eu sgriptio yn eu cyfleuster pwrpasol newydd yng nghanol y ddinas.
Mae dosbarthiadau meistr diwydiant, darlithoedd gwadd a chyfle profiad gwaith manwl mewn cwmni creadigol yng Nghymru yn eich galluogi i adeiladu eich portffolio a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd eich gwaith yn cynhyrchu ffilmiau byr ar y cwrs yn cynyddu eich profiad a'ch CV gan symud o'r cwrs i'r diwydiant Ffilm a Theledu.
Anogir ymgeiswyr sy'n ansicr ynghylch pa lwybr y dylent wneud cais amdano i gysylltu â thîm y cwrs am drafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais. Os byddwch yn dewis gwneud cais am fwy nag un llwybr, dylai eich portffolio ddangos eich diddordeb a'ch profiad ym mhob maes unigol ac felly bydd angen mwy nag un portffolio.
2022 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amser llawn | 1 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2023 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Amser llawn | 1 flwyddyn | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.