Gan adeiladu ar lwyddiant ein gradd mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi’i hen sefydlu a’r degawdau o ddarparu addysg i’r heddlu, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio yn y sector plismona. Bydd y radd meistr hon yn gwella ac yn datblygu eich sgiliau rheoli ac arwain, wrth ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn meysydd plismona cyfoes.
Mae modiwlau'n ymdrin â meysydd allweddol o blismona a'r system cyfiawnder troseddol. Mae’r modiwlau’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ymchwilio i arfer cyfoes mewn perthynas â phlismona digidol a throseddau a alluogir gan y we yn ogystal ag ymgysylltu â’r gymuned, rheoli digwyddiadau critigol, diogelu’r cyhoedd a bod yn agored i niwed.
Yn sail i’r meysydd astudio allweddol hyn bydd ffocws ar:
- Proffesiynoldeb a safonau proffesiynol
- Datblygu sgiliau arwain.
- Datblygu cysondeb lle mae o’r pwys mwyaf i’r cymunedau a’r rhai sy’n gweithio ym maes plismona.
- Meddwl cydgysylltiedig a strategol.
- Lles y gweithlu.
- Cyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn cymdeithas.
- Sganio'r gorwel ac ymateb i fygythiadau a heriau newydd.
Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein trwy gyfuniad o ddeunyddiau byw a rhai wedi'u recordio ymlaen llaw. Mae’r cwrs hwn yn diwallu anghenion y rhai sy’n gweithio ym maes plismona, a’r rhai sydd â diddordeb mewn symud ymlaen o fewn amgylchedd plismona, ac y mae’n well ganddynt ddewis eu gofod, eu cyflymder a’u man astudio.
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd gan y rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus ar Brentisiaethau Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) a Rhaglenni Mynediad Deiliaid Gradd (DHEP).
Sylwer: Dylai swyddogion mewn swydd o bob rheng ystyried cyfleoedd Cydnabod Dysgu Blaenorol drwy Brofiad (RPL/RPEL). Efallai eich bod wedi dilyn nifer o gyrsiau trwy gydol eich gyrfa y gall y Brifysgol eu cydnabod yn ffurfiol fel rhan o'ch cais. Mae'r Arweinydd Cwrs yn Brif Arolygydd profiadol sydd wedi ymddeol a all eich cynghori a'ch helpu gyda'r broses hon.
2023 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Ar-lein | 8 | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Ar-lein | 8 | |
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Ar-lein | 8 | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Ar-lein | 8 |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.