Bydd myfyrwyr sy’n astudio ar sail amser llawn yn cwblhau’r cwrs mewn blwyddyn. Bydd myfyrwyr rhan amser yn cymryd dwy flynedd. Mae’r cwrs yn cyfuno cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol, gan gynnwys y canlynol.
Ysgrifennu Perswadiol
Gan ddefnyddio elfennau sylfaenol ymarfer newyddiaduraeth yn fan cychwyn, bydd y modiwl hwn yn archwilio ysgrifennu ac adrodd stori ar gyfer amrywiaeth o blatfformau ac allfeydd, o ddatganiadau i’r wasg i ysgrifennu copi masnachol i storïau newyddion. Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu eu harddull unigryw eu hunain yn ogystal â gwerthfawrogi gofynion y cyfathrebwr proffesiynol i ddatblygu sylfaen eang o sgiliau. Bydd gwerthfawrogiad o gywirdeb a naws, a’r gallu i ddilyn briff y cytunwyd arno yn bwydo i mewn i’r naratif ysgrifenedig.
Cyfathrebu: O’r cysyniadau i’r arferion
Beirniadaeth gyflwyniadol o gysyniadau allweddol ac offer ymarfer newyddiaduraeth a chyfathrebu modern. Bydd yn archwilio sylfeini theoretig y pwnc drwy archwilio sut maent yn cael eu defnyddio i wella neu ddylanwadu ar faterion mewn cymdeithas, diwydiant a’r amgylchedd. Bydd pwyslais ar ddeall sut mae dulliau traddodiadol o gyfathrebu yn esblygu a sut yr effeithir ar y diwydiant.
Gweithle’r Cyfryngau
Diben y modiwl hwn yw cyflwyno a hwyluso’r profiad yn seiliedig yn y gwaith a rhoi i’r myfyriwr y profiad ymarferol o gynhyrchu gwaith ar bwnc arbenigol yn seiliedig yn y diwydiant;
Cynnig cyfnod o leoliad gwaith yn y diwydiant neu efelychiad o’r gweithle. Cyflwyno’r myfyriwr i ddisgwyliadau ac arferion gweithio i ofynion y diwydiant, ac felly gweithio â chymhwysedd proffesiynol.
Adrodd stori’n weledol a chreadigol
Bydd y modiwl yn caniatáu i’r myfyriwr archwilio egwyddorion sylfaenol arferion presennol newyddiaduraeth weledol a chyfathrebiadau’r cyfryngau gweledol. Yn sylfaen i hynny bydd cyfres o ddarlithoedd allweddol ar hanes ac arferion presennol cyfryngau newydd, traws-gyfryngau, ysgrifennu ar gyfer cynnwys ar-lein a nodwedd, cyfryngau rhyngweithiol a thechnoleg newydd i adrodd storïau a’u gwneud yn weladwy.
Bydd y cyfeiriad tuag at friffiau byw wedi’u harwain gan y cleient lle y bo’n bosibl, gan archwilio’r ymarfer a’r cymhwysiad mewn meysydd allweddol fel adrodd storïau ar sawl platfform, gwneud data’n weladwy, fideo ffurf fer, cynnwys wedi’i greu drwy ddulliau symudol, sain / podlediad, realiti estynedig, fideo 360 a chyfryngau rhyngweithiol sy’n archwilio ffyrdd newydd i greu cynnwys ar gyfer print, ar-lein a symudol.
Pecyn Cymorth Ymchwil y Cyfryngau
Rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a’r dulliau gweithredu sy’n ofynnol ar gyfer ymchwilio yn sefydliadau’r cyfryngau; llywio dadansoddiad beirniadol o’r cyfryngau, a chynulleidfaoedd y cyfryngau’n benodol, tra’n rhoi iddynt y gallu i nodi ffynonellau sy’n briodol i dasgau ymchwil penodol a chyfathrebu’r rhain i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol.
Galluogi myfyrwyr i ddatblygu cymhwysedd proffesiynol mewn nodi a gwireddu cyfleoedd i adrodd storïau’n ddigidol ar draws amryw blatfformau drwy darddu syniadau, casglu deunydd cydrannol a chynhyrchu arteffactau amlgyfrwng priodol.
Cymhwyso offer proffesiynol megis gwrando cymdeithasol, gan gynnwys monitro’r cyfryngau cymdeithasol, fel offeryn ymchwil sy’n caniatáu i ymchwilwyr ddadansoddi a gweithredu ar sgyrsiau ac adborth.
Ymarfer yn y Byd Go Iawn
Creu corff sylweddol o waith sy’n arddangos lefel eich galluoedd technegol, esthetig a deallusol, mewn perthynas â’ch dewis arbenigedd.
Pŵer y Cyfryngau a Chyfiawnder
Datblygu dealltwriaeth gadarn o gyfraith, rheoleiddio a moeseg yn ymwneud â’r cyfryngau, yn y modd y maent yn berthnasol yn benodol i adrodd stori mewn modd aml-blatfform mewn newyddiaduraeth ac yn y diwydiant cyfathrebu’n ehangach.
Bydd y modiwl hwn yn cynnig i fyfyrwyr yr hyder i weithredu’n ddiogel a bydd gofyn iddynt drafod, beirniadu a gweithio gyda’r heriau sy’n dod i’r amlwg yn y maes hwn, o bwy sy’n berchen ar hawlfraint delwedd i b’un a allai trydariad arwain at ymddangosiad llys.
Dysgu
Addysgir myfyrwyr trwy gymysgedd o weithdai, seminarau, darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal â darlithoedd gwadd a dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a'r cyfle i weithio gyda phartneriaid diwydiant ar brosiectau a lleoliadau. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymuno ag ystod gyfoethog o weithgareddau gwerth ychwanegol a gynigir o amgylch y gyfadran ynghyd â rhai pwrpasol ar gyfer eu cwrs eu hunain.
Cyflwynir yr MA Newyddiaduraeth Weledol o PDC Caerdydd, ein campws yng nghanol y ddinas. Dylech ddisgwyl bod ar y campws un i ddau ddiwrnod bob wythnos yn ystod y tymor (myfyrwyr amser llawn) gydag ychwanegiad o ddosbarthiad ar-lein ar gyfer rhai elfennau o'r cwrs. Gall cyflenwi ar y campws gynnwys rhai nosweithiau cynnar ac ambell i weithgaredd penwythnos, i gyd-fynd orau â chydbwysedd bywyd a gwaith myfyrwyr.
Byddwch hefyd yn datblygu portffolio proffesiynol mewn ystod o gyfryngau a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol cryf, ynghyd â dysgu sgiliau hanfodol i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu weithio ar eich liwt eich hun yn y diwydiant cyfathrebu a/neu'r cyfryngau.
Asesu
Bydd yr asesu trwy gyfres o asesiadau ymarferol yn seiliedig ar friffiau byw a phrosiectau cynhyrchu, ynghyd â myfyrdodau ysgrifenedig a dadansoddiad beirniadol o waith myfyrwyr.