Ymhlith y 10 cyntaf yn y DU am y pumed flwyddyn yn gyson - Guardian League Table 2019-23
Os ydych chi am fod yn geiropractydd, mae'r cwrs ceiropracteg hwn yn darparu'r addysg a'r hyfforddiant clinigol priodol i fodloni gofynion cofrestru yn y DU.
Rhaglen ceiropracteg Meistr israddedig gwbl integredig yw hon sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC) a'r Cyngor Ewropeaidd ar Addysg Ceiropracteg (ECCE). Mae hyn yn sicrhau bod graddedigion yn cwrdd â safonau achredu ceiropracteg cenedlaethol a rhyngwladol ac yn gallu cofrestru gyda'r GCC i ymarfer yn y DU.
Ar ein gradd ceiropracteg byddwch yn astudio ac yn deall y corff dynol mewn iechyd ac afiechyd, yn gallu nodi annormaleddau strwythur a swyddogaeth ddynol, a rheoli cleifion trwy ddulliau llaw. Mae'r rhain yn cynnwys trin, technegau meinwe meddal ac adsefydlu gweithredol.
Mae profiad clinigol yn rhan fawr o'ch hyfforddiant ceiropracteg. Cyflwynir elfennau o waith clinigol o'r dechrau ac maent wedi'u hintegreiddio'n ofalus i atgyfnerthu'ch astudiaeth academaidd. Mae eich blwyddyn olaf yn lleoliad clinigol, lle byddwch chi'n trin ac yn rheoli cleifion ag anhwylderau cyhyrysgerbydol i ddatblygu eich sgiliau clinigol, eich hyder a'ch cyflogadwyedd.
Yn ail yn y DU ar gyfer Meddygaeth Gyflenwol (Complete University Guide 2023)
Mynnwch gip ar sut beth yw astudio ym Mhrifysgol De Cymru cyn i chi wneud cais
'Cyflwyniadi Reoli Ceiropracteg ' - Cwrs Blasu Ar-lein Am Ddim
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
79P2 | Llawn amser | 5 mlynedd | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
79P2 | Llawn amser | 5 mlynedd | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.