Bydd Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA) Prifysgol De Cymru yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i fod yn arweinydd busnes strategol llwyddiannus.
Mae'n adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr i ddatrys problemau go iawn, ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i'r sefydliadau y maent yn gweithredu ynddynt.
P'un a ydych chi'n gweithio mewn sefydliad sector cyhoeddus neu breifat, byddwch chi'n dysgu sut i integreiddio ymchwil ac ymarfer blaengar ar draws yr holl feysydd busnes allweddol i drawsnewid busnes.
Yn ystod yr MBA byddwch yn datblygu sgiliau arwain allweddol megis creadigrwydd, arloesi, cydweithredu a datrys problemau ac yn cael eich cyflwyno i theori busnes arloesol mewn cyd-destun ymarferol.
Yn ogystal â'ch cymhwyster MBA, byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill Diploma Lefel 7 y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Mae hyn wedi'i ymgorffori yng nghwricwlwm MBA, felly nid oes angen asesiad ychwanegol, dim ond pasio elfennau gofynnol eich MBA yn llwyddiannus.
Mae'r Brifysgol yn gartref i amgylchedd bywiog, amlddiwylliannol sy'n rhoi cyfle gwych i chi gael persbectif rhyngwladol ar fusnes a gwahanol ddiwylliannau ac arferion.
Sylwch, oherwydd y niferoedd uchel o geisiadau a dderbyniwyd, nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau newydd gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dechrau'r cwrs hwn ym mis Ionawr neu Chwefror 2023. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr yn y DU neu'r UE yn dal i gael eu derbyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Ryngwladol. Bydd unrhyw geisiadau rhyngwladol newydd a dderbynnir ar gyfer derbyniadau Ionawr/Chwefror 2023 yn cael eu tynnu’n ôl.
Fodd bynnag, gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais i astudio'r cwrs hwn o fis Medi 2023. Er nad oes dyddiad cau penodol i wneud cais, byddem yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl.
2023 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.