Mae'r cwrs MSc Peirianneg a Rheolaeth Awyrennau yn cynnwys wyth modiwl sydd â thema allweddol trwy gydol eich astudiaethau gan gynnwys dimensiynau moesegol gwneud penderfyniadau a chysylltiadau rhyngbersonol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fod yn hyderus y byddwch chi'n datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol fel rhan o'r cwrs, gan wneud eich hun yn fwy cyflogadwy yn y pen draw. Byddwch chi'n astudio'r modiwlau canlynol:
Rheoli a Gweithrediadau Awyrennau
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o gylch bywyd awyrennau a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig sy'n sicrhau bod dyluniadau newydd yn cyflawni lefelau uchel o ddibynadwyedd a chynaliadwyedd cynhenid. Byddwch yn astudio tueddiadau dylunio a gweithgynhyrchu awyrennau heddiw ac yn y dyfodol a'r broses ardystio.
Fe'ch cyflwynir i'r modelau, y cysyniadau a'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer cynnal a chadw systemau awyrennau gan gynnwys eu datblygu, eu hintegreiddio a'u hardystio.
Monitro Cyflwr a Phrofi Anninistriol
Mae'r modiwl hwn yn dadansoddi monitro cyflwr a phrofion annistrywiol, gan roi gwerthfawrogiad i chi o'r cysyniadau a'r offer allweddol yn y pwnc hwn. Byddwch yn gwerthuso'r defnydd o'r offer hyn mewn gwahanol sefyllfaoedd o fewn diwydiant ac yn gwneud argymhellion ar yr addasiadau angenrheidiol.
Peirianneg Ddynol
Fe'ch anogir i ddadansoddi a gwerthuso systemau rheoli diogelwch, diogelwch sefydliadol a pherfformiad dynol yn y diwydiant hedfan yn feirniadol.
Gweithrediadau Cynnal a Chadw Darbodus ac Ardystio
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu a deall cysyniadau ym meysydd Six Sigma, cynnal a chadw darbodus, ymchwil weithredol, cynnal a chadw sy'n canolbwyntio ar ddibynadwyedd a chynllunio cynnal a chadw. Byddwch yn gwerthuso ac yn dadansoddi prosesau mewn diwydiannau rheoledig iawn yn feirniadol.
Rheoli Diogelwch, Iechyd a Pheirianneg Amgylcheddol
Gan gwmpasu egwyddorion a gweithrediad diogelwch, iechyd a'r rheolaeth amgylcheddol yn y gweithle, byddwch yn edrych ar gysyniadau allweddol mewn gwybyddiaeth ddynol a ffactorau dynol eraill wrth reoli risg ac ymchwilio i ddamweiniau / digwyddiadau. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth o rôl cyfranogiad rhanddeiliaid mewn datblygu cynaliadwy.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol i Beirianwyr
Bydd y modiwl hwn yn archwilio ystod o ddibenion a materion yn ymwneud â rheolaeth ac arweinyddiaeth strategol lwyddiannus ynghyd â gwerthuso ystod o ymddygiadau a phrosesau arweinyddiaeth a allai ysbrydoli arloesedd, newid a thrawsnewid parhaus o fewn gwahanol feysydd sefydliadol gan gynnwys logisteg a rheoli'r gadwyn gyflenwi.
Dulliau Ymchwil i Beirianwyr
Nod y modiwl hwn yw rhoi'r gallu i chi bennu'r dulliau mwyaf priodol i gasglu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth sy'n berthnasol i faes ymchwil peirianneg. I roi'r gallu i chi fyfyrio'n feirniadol ar eich gwaith chi ac eraill.
Prosiect Unigol
Byddwch yn ymgymryd â darn sylweddol o waith ymchwil ymchwiliol ar bwnc peirianneg priodol ac yn datblygu ymhellach eich sgiliau ymchwil, dadansoddi beirniadol a datblygu datrysiadau gan ddefnyddio technegau priodol.
Dysgu
Fe'ch addysgir trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gwaith labordy ymarferol. Ar gyfartaledd gallwch ddisgwyl bod mewn gweithgareddau ystafell ddosbarth am oddeutu 12 awr yr wythnos, a bydd angen i chi hefyd neilltuo tua 30 awr yr wythnos i hunan-astudio, megis gwneud gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer eich asesiadau a'ch darlithoedd.
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy waith cwrs neu gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau. Mae'r traethawd hir yn caniatáu ichi ymchwilio i bwnc penodol ym maes peirianneg awryennau, i ddangos dyfnder eich gwybodaeth, ymwybyddiaeth feirniadol a sgiliau datrys problemau. Mae tair elfen o asesiad i'r traethawd ymchwil: thesis, cyflwyniad poster, ac arholiad viva voce.