Fel deiliad gradd mewn peirianneg, gallwch wella datblygiad eich gyrfa trwy ennill gwybodaeth eang am reoli cyfoes. Mae'r MSc Rheoli Peirianneg yn cynnig archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol, sy'n ddelfrydol os oes gennych gefndir peirianneg ymarferol a bod gennych ddiddordeb neu’ch bod yn gweithio mewn rôl reoli yn y sector preifat neu gyhoeddus.
Sylwch, oherwydd y niferoedd uchel o geisiadau a dderbyniwyd, nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau newydd gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dechrau'r cwrs hwn ym mis Ionawr neu Chwefror 2023. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr yn y DU neu'r UE yn dal i gael eu derbyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Ryngwladol. Bydd unrhyw geisiadau rhyngwladol newydd a dderbynnir ar gyfer derbyniadau Ionawr/Chwefror 2023 yn cael eu tynnu’n ôl.
Fodd bynnag, gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais i astudio'r cwrs hwn o fis Medi 2023. Er nad oes dyddiad cau penodol i wneud cais, byddem yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl.
2023 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.