Os ydych chi eisiau gyrfa mewn rheoli caffael, mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol arbenigol yn cynnig addysgu strategol lefel uchel ym mhob ardal o'r maes hwn sy'n tyfu.
Mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol, mae angen i reolwyr prynu a’r gadwyn gyflenwi ddatblygu a dangos amrywiaeth o gymwyseddau allweddol.
Mae gan ein graddedigion y wybodaeth arbenigol i gydlynu ac addasu eu gweithgareddau prynu a’r gadwyn gyflenwi, ac ymateb i anghenion deinamig busnes modern.
Mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol wedi'i achredu gan nifer o gyrff proffesiynol, sy'n golygu y gallwch fod yn sicr eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant.
Mae MSc Rheoli Caffael Strategol PDC wedi'i chredu gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS), corff proffesiynol y sector. Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn ennill y MCIPS (gyda thair blynedd o brofiad gwaith).
Os oes gennych gymhwyster proffesiynol perthnasol a bod gennych dair i bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer eithriadau i gyflymu'ch astudiaethau. Sylwch nad yw'r llwybr carlam yn denu cyllid myfyrwyr y llywodraeth oherwydd bydd angen i chi fod yn astudio’r cwrs cyfan, nid swm llai o gredydau oherwydd astudiaeth/profiad blaenorol.
Sylwch, oherwydd y niferoedd uchel o geisiadau a dderbyniwyd, nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau newydd gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dechrau'r cwrs hwn ym mis Ionawr neu Chwefror 2023. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr yn y DU neu'r UE yn dal i gael eu derbyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Ryngwladol. Bydd unrhyw geisiadau rhyngwladol newydd a dderbynnir ar gyfer derbyniadau Ionawr/Chwefror 2023 yn cael eu tynnu’n ôl.
Fodd bynnag, gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais i astudio'r cwrs hwn o fis Medi 2023. Er nad oes dyddiad cau penodol i wneud cais, byddem yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl.
2023 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Chwefror | Trefforest | A | |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Trefforest | A | |
Rhan amser | 2 flynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |
Cyrsiau Cysylltiedig
MSc Logisteg Rhyngwladol a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi (Atodol)
Diploma mewn Caffael a Chyflenwi, Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS)
Diploma Proffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi, Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS)
BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi
MSc Logisteg Ryngwladol a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Treforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.