Mae cynnwys y cwrs wedi'i drefnu'n ddau fodiwl craidd sy'n rhedeg yn ystod dri thymor y cwrs blwyddyn.
Cwricwlwm a phrofiad ysgol - ymgorffori egwyddorion addysgeg. 60 credyd ar lefel 6:
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth astudio'r pwnc a phrofiad ymarferol. Trwy gyfuniad o ddarlithoedd yn y brifysgol a phrofiadau yn yr ysgol, mae'r modiwl yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu ac adlewyrchu fel dysgwyr gwydn, gydol oes, sy'n ymwneud yn bwrpasol â'u dysgu proffesiynol, eu datblygiad a'u lles eu hunain. Mae integreiddiad darlithoedd, seminarau a thiwtorial wedi'u halinio'n ofalus â phrofiadau ysgol cyfatebol, gan gefnogi theori drylwyr i ymarfer cymhwysiad.
Mae athrawon dan hyfforddiant yn gwerthuso ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn feirniadol trwy ymholi, er mwyn codi cyrhaeddiad dysgwyr. Maent yn datblygu, cydgrynhoi a mireinio eu gwybodaeth bwnc, eu dealltwriaeth a'u sgiliau mewn perthynas â'u rolau a'u cyfrifoldebau yn ystod profiad ysgol ac yn cyfrannu at gyflawni'r disgrifyddion ar gyfer Statws Athro Cymwysedig fel y'u nodwyd yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Defnyddir ystod o strategaethau asesu i fesur cymwyseddau gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol yn effeithiol a datblygu'r iaith Gymraeg i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu.
Ymarfer myfyriol - datblygu ymchwil ac ymholi i ddod yn gyfryngau newid. 60 credyd ar lefel 7:
Mae'r modiwl hwn yn cefnogi'r modiwl lefel 6 yn llawn trwy ymgorffori a chydgrynhoi egwyddorion addysgeg a chefnogi ymholi pellach, myfyrio beirniadol a gwerthuso trwy brosiectau ymchwil penodol. Mae cyfnodolyn myfyriol blwyddyn o hyd yn pontio sgiliau ymchwil ac ymholi'r athrawon dan hyfforddiant. Archwilir a datblygir methodoleg ymchwil trwy brosiect yn yr ysgol sy'n cysylltu â chynllun datblygu ysgol fyw, gan sicrhau atebolrwydd o fewn amgylchedd yr ysgol.
Defnyddir gwybodaeth ddamcaniaethol feirniadol a dadansoddi data i lywio ymholiad gweithredu ac i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn athrawon sy'n ymholi gydol oes. Yn ogystal â datblygu ymchwil unigol, mae cyfleoedd asesu yn cael eu cynllunio trwy gydol y modiwl i asesu gallu athrawon dan hyfforddiant i archwilio a myfyrio’n feirniadol ar erthyglau ymchwil sy’n gysylltiedig ag arferion pedagogaidd gwahaniaethu, ymddygiad ac asesu ar gyfer dysgu (er enghraifft).
Addysgu
Defnyddir ymagwedd dysgu cyfunol i ddarparu ystod o gyfleoedd dysgu hyblyg i athrawon dan hyfforddiant ac i dynnu sylw at egwyddorion addysgeg effeithiol trwy fodelu effaith ystod o ymagweddau.
Mae darlithoedd yn tynnu eich sylw at ymchwil gyfredol, diwygiad a datblygiad y cwricwlwm ac ymagweddau addysgeg. Mae sesiynau ymarferol astudiaeth pwnc penodol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Mae sesiynau tiwtorial yn darparu cyfleoedd ar gyfer trafodaeth academaidd ac yn yr ysgol a myfyrio personol.
Mae astudio dan gyfarwyddyd yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i baratoi'n briodol ar gyfer asesiadau; i fireinio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth trwy ymchwilio i amrywiaeth o adnoddau ar gyfer datblygu sgiliau a gwella deallusrwydd.
Mae Dysgu Annibynnol yn annog athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu gwybodaeth bwnc bellach, i wella sgiliau ymchwil ac i gymryd cyfrifoldeb am ddatblygu targedau personol. Mae athrawon dan hyfforddiant yn defnyddio'r cyfleusterau rhagorol gan gynnwys cyfleoedd dysgu efelychol.
Mae'r Profiad Ysgol wedi'i strwythuro'n flociau o ddysgu ac ymarfer dwys trwy gydol y rhaglen. Mae hyn yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i elwa ar gyfleoedd strwythuredig i weithio ar feysydd penodol o’u hymarfer trwy ‘gyfuno’ theori, ymchwil ac ymarfer. Mae'r dysgu wedi'i ffocysu, yn hytrach nag yn wasgaredig; ymhob bloc o Brofiad Ysgol, mae athrawon dan hyfforddiant yn addysgu, wedi'i arsylwi gan aelod cymwys o staff yr ysgol, eu darlithydd, neu'r ddau. Mae'r addysgu'n dechrau gydag addysgu mewn grwpiau bach, neu ddysgu gweithgaredd byr i grwpiau mwy, gan adeiladu i ddysgu gwersi cyfan ac yna cyfres o wersi.
Mae athrawon dan hyfforddiant yn cwrdd â mentoriaid unwaith yr wythnos i drafod eu dysgu eu hun ac i ddysgu am ddyletswyddau proffesiynol ehangach mewn perthynas ag ysgolion.
Asesiad
Mae'r asesiad yn cynnwys aseiniadau academaidd ysgrifenedig, beirniadaethau o erthyglau cyfnodolion, cyflwyniadau, prosiect agos at ymarfer a gyflwynir fel e-lyfr ac asesiad digidol ymarferol. Bydd cynnydd yn cael ei asesu trwy gydol y flwyddyn tuag at y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn dyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC).