Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mwn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) wedi'i hanelu at y rhai sydd am ddatblygu eu harweiniad ymarferol a damcaniaethol o arweinyddiaeth a rheolaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau addysgol.
Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n dyheu am swyddi arweinyddiaeth, yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes arwain a rheoli ysgolion.
Mae'r cwrs wedi'i gydblethu'n ofalus â'r arfer o arwain a rheoli mewn addysg, ac mae ei gynnwys yn uniongyrchol berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau addysgol.
Mae'n gyfle gwych i ymarferwyr ar bob lefel fyfyrio ar yr heriau arweinyddiaeth y maent yn eu profi ar hyn o bryd, ac archwilio'n feirniadol eu canfyddiadau o'r hyn sy'n nodweddu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
2024 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 1 flwyddyn | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2025 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 1 flwyddyn | Medi | Dinas Casnewydd | C |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.