EDRYCHWCH Y RHAN GYDA CAP GRADDIO DIY. BYDDWCH YN GREADIGOL, DILYN Y FIDEO CAM-WRTH-GAM A RHANNWCH EICH LLUNIAU GYDA NI! #DOSBARTH2020PDC
Mae seremonïau graddio'n arbennig. Maen nhw'n ddathliad. Cydnabyddiaeth o waith caled a chyflawniad. Maen nhw'n bwysig i'r myfyrwyr sy'n graddio ac i'w ffrindiau a'u cefnogwyr. Mae'n siomedig bod seremonïau graddio yn cael eu gohirio eleni, ond gallwch barhau i ddathlu drwy ymuno yn y sgwrs ar-lein drwy #Dosbarth2020PDC. Rydym yn dathlu gyflawniadau myfyrwyr am wythnos o ddydd Llun 27 Gorffennaf. Felly, ymunwch â ni.
Fel rhan o'r dathliadau, rydyn ni'n dod yn greadigol ac yn dangos i chi sut i greu cap graddio gyda deunyddiau ac offer rydych chi'n debygol o'u cael gartref.
Gwyliwch y fideo, creu paned (neu rywbeth ychydig yn gryfach) ac ewch ati i’w greu!
Sgroliwch i lawr i weld rhai o'r capiau sydd wedi'u creu hyd yn hyn, a rhannwch eich un chi trwy ddefnyddio'r hashnod #Dosbarth2020PDC