LLONGYFARCHIADAU I DDOSBARTH 2020!
Efallai bod pethau yn edrych ychydig yn wahanol yr haf yma, ond rydym dal eisiau i chi fachu’r cyfle i ddathlu a dod at eich gilydd i gofio eich amser yn PDC.
Mae graddio yn annog emosiynau cymysg – hapusrwydd a rhyddhad, cyffro a thristwch. Ond mae’n gyfnod arbennig iawn ac eleni, mae cydnabod eich gwaith caled yn fwy haeddiannol nag erioed.
Wrth i ni edrych i’r dyfodol ac aros i’ch croesawu yn ôl ar gyfer y seremoniau ffurfiol, rydym yn gobeithio y byddwch yn cadw’n ddiogel gan fwynhau eich dathliadau gyda chyd-fyfyrwyr, tiwtoriaid, teulu a ffrindiau.
llofnodwch y lyfr blynyddol

Rhannwch eich atgofion, lluniau a negeseuon yn ein llyfr blynyddol digidol.
CREU CAP GRADDIO EICH HUN

Gwisgwch lan drwy greu cap eich hun ar gyfer graddio. Rhannwch eich luniau gyda ni! #Dosbarth2020PDC
CERDDORIAETH I DDATHLU GYDA

Dathlwch o’ch ystafell fyw gan wrando ar eich dewisiadau Spotify
DATHLU GYDA NI AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Rydym yn falch o'n graddedigion ac yn cynnal dathliadiau wythnos hon i chi. Cymerwch ran a rhannwch eich lluniau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol #Dosbarth2020PDC

LLONGYFARCHIADAU WRTH ALUMNI
DATHLU Â RHODDION PERSONOL
Am drin eich hun neu ffrind i rywbeth i gofio'ch amser yn USW? Mae pob eitem wedi'i phrisio'n gystadleuol, wedi'i theilwra'n benodol a gellir ei greu o fewn 2-3 diwrnod gwaith. Mae gennym ystod eang o gynhyrchion gan gynnwys; Mwgiau, matiau diod, crysau-T, bagiau Tote, matiau llygoden a chelf gynfas.
I wneud ymholiad, lawrlwythwch ein taflen am fanylion llawn neu ffoniwch: 01443 482 023, neu e-bostiwch: [email protected] a byddwn yn hapus i roi gwybod i chi faint mae eitem yn ei gostio a sut mae'n gweithio.
Bagiau Tote

Printiau

Mygiau

Fframiau

RYDYM YMA I GEFNOGI CHI GYDA'R CAMAU NESAF
Ar ôl graddio, bydd PDC dal yma i’ch cefnogi. Byddwch chi’n dod yn aelod o’n rhwydwaith alumni am oes ac yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau rhwydweithio ac aduniadau. Gallwch hefyd fanteisio ar ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys Gyrfaoedd PDC, mynediad i’n llyfrgelloedd a defnydd disgownt o’n cyfleusterau chwaraeon.
O ddod o hyd i'ch swydd gyntaf i ddatblygu'ch gyrfa a sgiliau dymunol, rydyn ni yma i helpu. Gweler isod am ragor o fanylion:

Dod o hyd i yrfa
Ar gyfer dosbarth 2020, bydd gadael PDC ychydig yn wahanol eleni, ond mae Gyrfaoedd PDC yn dal i fod yma i chi. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio o bell, felly gallwch ddal i gael mynediad i'n gwasanaethau. Gallwch archebu apwyntiad ar Skyvia neu ffonio, tiwnio i mewn i un o'n gweminarau cyflogadwyedd neu defnyddio ein gwasanaeth e-arweiniad ‘Gofynnwch Gwestiwn’. Rydyn ni yma i chi, pryd bynnag y mae ein hangen ni!
Cyfleoedd Swyddi Cyfredol | Chwiliwch am y cyfleoedd gwaith diweddaraf ac i dderbyn rhybuddion wythnosol (neu'n ddyddiol os ydych chi'n wirioneddol awyddus!).
Dosbarth Gyrfaoedd USW 2020 | Arhoswch yn gysylltiedig. A chofiwch ar ôl y Brifysgol, rydyn ni dal yma i chi, cyhyd â'ch bod chi ein hangen ni. Adeiladu'ch Dyfodol, gyda'n gilydd!
Interniaethau
Oes gennych chi ddiddordeb mewn lleoliad neu interniaeth i ennill profiad gwaith gwerthfawr? Mae CCC yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws ystod o ddiwydiannau a'r nod yw eich cysylltu â'r cyfle mwyaf priodol ar gyfer eich dyheadau gyrfa.
Ochr yn ochr ag interniaethau diwydiant, rydym hefyd yn cynnig Rhaglen Interniaid Graddedig USW sy'n rhedeg bob blwyddyn ac yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n gadael neu raddedigion diweddar sy'n chwilio am gyfleoedd â thâl yn amgylchedd y Brifysgol.
I gael gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i leoliad neu gyfle interniaeth, cysylltwch â'n tîm gyrfaoedd a byddant yn gallu rhoi manylion i chi am yr opsiynau sydd ar gael.

Prentisiaethau
Mae prentisiaethau gradd yn cynyddu mewn poblogrwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gyda chyflogwr gan ennill cyflog wrth astudio ar gyfer gradd. Mae’n ffordd berffaith o gael profiad wrth i chi astudio. Mae nifer fawr o’n prentisiau yn cael eu recriwtio gan eu cyflogwr ar ôl graddio.
YSTYRIED ASTUDIAETH BELLACH?

Cyrsiau Ôl-raddedig
Mae miloedd o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs ôl-radd yn PDC bob blwyddyn. Yn aml, mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau uwch gan raddedigion ôl-radd a gall un o’n cyrsiau wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach.
Rydym yn cynnig amryw o gymwysterau, o dystysgrifau a diplomas ôl-radd i raddau meistr. Mae nifer o’n cyrsiau wedi’u hachredu hefyd felly byddwch chi’n sicrhau cymhwyster sydd wedi’u cydnabod gan y diwydiant.
Gall raddedigion Prifysgol De Cymru, gan gynnwys graddedigion Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd a Polytechnig Cymru, derbyn gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu am gyrsiau’n ol-raddedig sy'n cychwyn ym mis Ionawr/ Chwefror 202- 2021.
Telerau ac amodau'n berthnasol. Am yr holl gymwysterau, ac i ddarganfod mwy, ewch i: www.southwales.ac.uk/money

Graddau ymchwil
Mae ymchwil yn PDC yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn. Rydym yn newid bywydau a'n byd er gwell trwy ddarparu atebion i broblemau.
Mae'r Brifysgol yn cynnig graddau ymchwil ar lefel Doethuriaeth a Meistr gydag opsiynau astudio llawn neu ran-amser. Mae mwy na 400 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn USW, yn gweithio ar y cyd ar draws sectorau. Maent yn defnyddio eu talent a'u harbenigedd i helpu cymunedau, busnesau a llunwyr polisi. Darganfyddwch beth allech chi ei gyflawni gyda gyrfa mewn ymchwil.
