Datganiad hygyrchedd Prifysgol De Cymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.southwales.ac.uk
Prifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch mae'r wefan hon
Mae nifer o adrannau i’n gwefan, sy'n cael eu darparu gan wahanol systemau. Rydym wedi casglu’r trafferthion rydym yn ymwybodol ohonynt o dan yr adrannau perthnasol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae gan y brif wefan recriwtio (sy'n dechrau yn www.decymru.ac.uk) y trafferthion canlynol
Rydym yn gwybod bod rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch.
Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw drafferthion rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran cynnwys nad yw'n hygyrch y datganiad hwn.
Fformatau gwahanol
Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Adborth a manylion cyswllt
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:
- Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
- Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Wrth gysylltu â ni, rhowch:
- Gyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch ar draws y broblem.
- Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe a ddefnyddiwyd.
- Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddiwyd (er enghraifft, darllenydd sgrin).
E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n ateb gofynion hygyrchedd, e-bostiwch [email protected].
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Sut i gysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (CHCG) oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Rydym wedi nodi'r hyn rydym yn ei wneud i ddatrys y trafferthion a'r dyddiadau penodedig i ddatrys y materion.
Prif wefan recriwtio
Mae sawl amrywiad o ran troedynnau yn y safle nad ydynt bob amser yn dangos yr un eitemau llywio cyson. Gall hyn ei gwneud yn anoddach llywio'r safle yn dibynnu ar ba dudalen y mae defnyddiwr arni. Mae hyn yn methu CHCG 3.2.3 Llywio Cyson (AA).
Bwriad datblygu datrysiad i hyn ym mis Tachwedd 2023. (Cyf 3)
Mae rhai meysydd chwilio a meysydd ffurf eraill ar y wefan yn dilysu cyn i wybodaeth gael ei mewnbynnu. Gall hyn beri i rai sy’n defnyddio darllenydd sgrin feddwl bod gwybodaeth anghywir wedi'i nodi. Mae hyn yn methu CHCG 3.3.1 Adnabod Gwallau (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn dod o hyd i ddatrysiad cyn diwedd 2023. (Cyf 12)
Mae'r hafan yn defnyddio delwedd baner gyda thestun sy'n gallu achosi problemau i ddefnyddwyr sydd angen addasu sut mae cynnwys gweledol, fel maint ffont, bylchau neu liwiau yn cael eu dangos. Mae hyn yn methu CHCG 1.4.5 Delweddau o Destun (AA) a 2.4.4 Diben Dolen (A).
Trefniant i ryddhau dull atgyweirio Tachwedd 28, 2023. (Cyf: 11)
Mae'r hafan yn defnyddio delwedd baner sy'n cynnwys gwybodaeth sydd heb ei chynnwys mewn testun ac sy’n gweithredu fel dolen. Mae hyn yn methu CHCG 1.1.1 Cynnwys Nad yw’n Destun (A), 1.4.5 Delweddau o Destun (AA) a 2.4.4 Diben Dolen (A).
Cywirwyd y testun wedi cael ei gywiro 3rAwst 2022. (Cyf: 11)
Trefniant i ryddhau dull atgyweirio Tachwedd 28, 2023, ar gyfer 1.4.5 a 2.4.4 (Cyf: 11)
Mae rhywfaint o gynnwys fideo ar y wefan nad yw’n cynnwys opsiynau cyfryngau gwahanol cyflawn ac yn cynnwys gwybodaeth sydd yn cael ei chyflwyno'n weledol yn unig. Mae hyn yn wir am gynnwys fideo ynglŷn â diwrnodau agored ac elfennau eraill yn ymwneud ag ymgysylltiad myfyrwyr. Mae hyn yn methu CHCG 1.2.3 Sain Ddisgrifiadau a Dewisiadau Cyfryngau Gwahanol (A).
Ar y gweill – Llais-drosodd wedi ei drefnu. (Cyf: 27)
Mae Carwselau Delweddau ar ein gwefan na ellir cael mynediad atynt drwy fysellfwrdd. Mae hyn yn methu CHCG 2.1.1 Bysellfwrdd (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn nodi datrysiad cyn diwedd Tachwedd 2023. (Cyf: 32, 35) Archwiliad Carwsél ar y gweill.
Mae Carwselau Delweddau lle nad oes testun amgen ar gael. Mae hyn yn methu CHCG 1.1.1 Cynnwys Nad yw’n Destun (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn nodi datrysiad cyn diwedd Tachwedd 2023. (Cyf: 37)
Ffurflen Archebu
Pan fydd defnyddiwr yn cyflwyno ffurflen yn anghywir nid oes rhybudd sain ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu CHCG 3.3.1 Adnabod Gwallau (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn dod o hyd i ddatrysiad cyn diwedd 2023. (Cyf: 45)
Nid yw opsiynau botwm radio a meysydd ffurf blwch cyfunol ar ffurflenni archebu yn cael eu nodi’n glir i ddefnyddwyr darllenydd sgrin a gall wneud y ffurflen yn anodd ei chwblhau. Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau (A), 2.5.3 Label mewn Enw (A) a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn dod o hyd i ddatrysiad cyn diwedd 2023. (Cyf: 43)
Mae rhai gwallau dilysu ledled au safle megis IDs dyblyg. Mae hyn yn methu CHCG 4.1.1 Dosbarthiad (A).
Rydym yn chwilio am ffyrdd o drwsio hyn a byddwn yn dod o hyd i ddatrysiad cyn diwedd 2023. (Cyf: 48)
Adran Colegau Partner
Efallai na fydd testun gydol yr adran Colegau Partner yn bodloni gofynion gwrthgyferbyniad lliw yn enwedig mewn achosion lle mae elfennau rhyngweithiol wedi newid lliwiau i ddangos ffocws. Mae hyn yn methu CHCG 1.4.3 Isafswm Cyferbyniad (AA).
Bwriad i ddatblygu datrysiad i hyn ym mis Tachwedd 2023.
Mae rhai delweddau yn yr adran Colegau Partner hefyd yn gweithio fel dolenni nad oes ganddynt destun cysylltiedig clir. Mae hyn yn methu CHCG 2.4.4 Diben Dolen (A) a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
Bwriad di datblygu datrysiad i hyn ym mis Tachwedd 2023.
Os dewch o hyd i fater nad ydym wedi ei adnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.
Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.
Baich anghymesur
Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Ein prosesau profi
Profwyd sampl gynrychioliadol o dudalennau'r wefan ynghyd â sampl o'r dogfennau o bob rhan o'r wefan yn erbyn canllawiau CHCG 2.1 AA gan ddefnyddio offer awtomataidd (axe DevTools Pro v4.4.2 a Microsoft Accessibility Insights) ar borwyr Google Chrome a Firefox ar Mac OSX a Windows.
Ar gyfer elfennau trydydd parti, rydym wedi cael datganiadau hygyrchedd gan gyflenwyr yn uniongyrchol (lle bynnag y bo modd).
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:
- Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol
- Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau
- Rydym yn penodi cyflenwyr i gynorthwyo gyda hyfforddiant hygyrchedd
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 29/07/2022. Cafodd y prawf ei wneud gan All Able Ltd.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar Hydref 3, 2022.
Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar Mawrth 1, 2023.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.